Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis
  

Os ydych chi'n hoff o anifeiliad, ac yn arbennig o geffylau, byddwch yn mwynhau'r ail stori yn y gyfres hon.

Mae Steph, chwaer fawr Aaron, wedi dod o hyd i ferlen mewn cae.  Nid oedd yn ymddangos ei bod yn perthyn i neb felly gofalodd Steph amdani.  Dysgodd hi i gario pobl mewn trap er mwyn talu am ei chadw.
Mae dechrau cyffrous i'r llyfr pan gawn hanes Carla, y ferlen fach, yn dychryn yn arw ac yn carlamu i ffwrdd gan lusgo'r trap ar ei hôl.  Mae rhywbeth yn bod arni hi.   Pam?  A beth yw'r marc wnaeth Steph ddarganfod ar ei hysgwydd wrth drin ei mwng?

Yn ogystal a dilyn stori Carla byddwch yn darllen mwy am aelodau eraill o deulu Steph, sy'n hoffi anifeiliaid ac yn gweithio yn Fferm Dref a'r Parc Gwledig, lle mae pobl yn medru mynd i weld anifeiliaid ac yn dysgu amdanynt.

 

Awdur: Emily Huws
Cyfres: Anifeiliaid Aaron
Gwasg Gomer £3.99
ISBN 1859029256