Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis
  

Stori antur yw hon wedi ei lleoli rhywle yn Unol Daleithiau America, mewn ardal braf a thlws gyda choedwigoedd mawr lle mae yna ffermydd anferth, diarffordd.  Ar un o’r ffermydd hyn mae Justin McCallister yn byw gyda’i fodryb a’ ewythr.  Mae’r goedwig fodd bynnag yn gartref i eirth, ac mae yna un arth grisli anferth wedi bod yn prowlan o gwmpas y fferm yn lladd wyn.  Tra mae ei fodryb a’i ewythr i ffwrdd o’r fferm, mae Justin yn penderfynu mynd i hela’r arth ar ei ben ei hun, ond mae’r hen arth yn glyfrach o lawer nag yr oedd yn ei feddwl.  Mae’r hyn sy’n digwydd i Justin yn y goedwig yn anghredadwy a chyffrous iawn, a byddwch yn teimlo eich bod yno go iawn.  Nid yw’r llyfr ond 54 tudalen felly gall pawb ei ddarllen yn hawdd, ac os ydi’r llyfr wedi gorffen yn rhy gyflym i chi, peidiwch â phoeni!  Mae yna 5 llyfr arall yn y gyfres!
                                  

 

Teitl: Yr Arth Grisli (cyfres Byd o Beryglon)
Awdur: Gary Paulsen
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
ISBN: 0863816827
Pris: £2.99