Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis
  

Y Clwb Cysgu Cwl a’r Paent Piws

Wyt ti’n hoffi gwylio rhaglenni cynllunio fel Sgwadnewyddu a Changing Rooms?  Wyt ti’n breuddwydio am gael llofft newydd sbon?  Os wyt ti, fe fyddi wrth dy fodd hefo’r stori newydd am y Clwb Cysgu Cwl.

Mae Sara wedi cael llond bol o aros i’w thad bapuro a pheintio ei llofft.  Felly mae genod y Clwb yn penderfynu eu bod nhw am wneud y gwaith.  Llanast llwyr – mae’r papur ben i lawr a’r paent yn llifo i bob man.  Yn waeth fyth, mae’r rhieni yn dweud na chaiff y Clwb gyfarfod eto.

Yr unig ateb wedyn yw llenwi ffurflen cystadleuaeth mewn cylchgrawn, i ennill llofft newydd.  Ond sut fedr y genod gael gafael ar gopi?

Fe fyddi di’n mwynhau troeon trwstan genod y Clwb Cysgu Cwl ac yn chwerthin am eu helyntion.  Os oes gen ti syniadau am addurno dy stafell, gwell i ti ddarllen y llyfr yma gyntaf!
            
     

Awdur: Narinder Dhami
Addasiad: Sian Lewis
Cyhoeddwyr: Gwasg Gomer
Pris: £3.50
ISBN: 185902923X