Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis
  

Ella bod yr Ail Ryfel Byd yn edrych fel pe bai ymhell yn ôl i ni rwan - jyst hen storiau o amser Hen Daid a Nain!  Wel, bydd y stori yma yn siwr o  wneud y cyfnod yn fwy i chi.  Mae’r stori yn ddiddorol - wedi ei lleoli yng Ngymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac mae wedi’i seilio ar brofiadau go iawn.

Roedd Sam yn byw mewn stryd o dai yn Lerpwl, ond ym Mai 1941, daeth awyrennau Heinkels yr Almaenwyr drosodd a dinistrio’r cwbl.   Drwy lwc roedd Mr. Edwards, prifathro ysgol Sam, yn dod yn wreiddiol o Ynys Môn,   ac mi drefnodd i blant y stryd a’u teuleuodd gael symud i’r ynys i fyw am weddill y rhyfel.  Ond nid oedd bywyd yn hawdd i Sam yng Nghymru - roedd ei deulu yn ôl yn Lerpwl  a doedd neb eisiau rhoi cartref iddo ac yna roedd y plant lleol yn ei fwlio.   Ydy bywyd yn gwella Sam? 
                    
Darllen y llyfr i weld.
 
             

Awdur: Glenys Lloyd
Cyfres Corryn
Gwasg Gomer £3.95
ISBN 1859028837