Llyfr
y Mis |
Prifathro
Ysgol Traed Moch oedd Mr Jazz Jones. Mae o'n brifathro da iawn, yn cael parch gan ei
ddisgyblion ai staff er ei fod yn gwisgo'n od ac yn gwrando ar ei hoff
gerddoriaeth jazz drwyr adeg (hyd yn oed yn yr ysgol!). Roedd hefyd yn dad i
efeilliaid (Bi Bop a Lwla) a oedd yn hel dannedd ac yn flin trwyr adeg.Yn anffodus i Jazz Jones roedd y Cyfarwyddwr Addysg yn cynllunio i gau pob ysgol fach - a pa ysgol oedd ar ben y rhestr? Ia, Ysgol Traed Moch. Er mwyn sicrhau hyn, penderfynnodd y Cyfarwyddwr yrru'r arolygwyr casaf ir ysgol i wneud yn siwr y byddai'n dweud bod angen ir ysgol gau. Enwr arolygwr yma oedd Mr Iagoshito Yamaha. Yn y llyfr cawn hanes yr helyntion
doniol sydd yn digwydd iddo yn yr ysgol ac yng nghartref Jazz Jones. Os ydych eisio
gwybod beth yn union a ddigwyddodd i Mr Yamaha ac os cafodd yr ysgol ei hachub, darllenwch
y llyfr. |
| Awdur : Gwyn Morgan Cyhoeddwr : Dref Wen (Cyfres Fflach Doniol) ISBN: 1855964708 Pris: £3.75 |