Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Mae hon yn nofel wahanol i'r arfer.  Mae'n rhan o gyfres newydd o lyfrau Graffics Gomer, sy'n gomic a llyfr mewn un.  Yn lle penodau o 'sgwennu, rydym yn dilyn y stori trwy luniau a swigod siarad yn union fel comic.  Efallai y buasai'r llyfr hwn yn apelio yn   fwy at fechgyn gan mai bachgen o'r enw Sam yw'r prif gymeriad a'i fod yn sôn am bêl-droed, ond mae mwy i'r stori na phêl-droed yn unig!  Goli yw Sam yn nhîm yr ysgol, ond yn dilyn un gêm drychinebus o wael, mae'r athro chwaraeon yn gofyn iddo sgwennu adroddiad am y gêm a'i ddarllen yn uchel yn y gwasanaeth yr wythnos wedyn.  Mae hyn yn gwneud i Sam boeni'n ofnadwy gan ei fod yn dioddef o ddyslecsia, sy'n golygu ei fod yn ei chael hi'n anodd i weld a darllen geiriau a rhifau yn iawn.

Darllenwch y stori i weld sut mae dyslecsia yn effeithio ar fywyd pob dydd Sam a sut mae'n dod dros ei broblem.  Mae o hyd yn oed yn llwyddo i ddatrys problem fandaleiddio y goliau pren yn yr ysgol mewn ffordd glyfar iawn!  Stori gyffrous sy'n hawdd i'w darllen yw hon, gyda digon yn digwydd ynddi a fydd yn apelio at blant 9-13 oed.  Mae'r lluniau hefyd yn dda iawn.

Stori gan Rob Childs
Gwasg Gomer, £3.95
  

Mwy o lyfrau gwerth chweil yng nghyfres GRAFFICS GOMER!

Anrheg gan Gysgod gan Mary Hooper

Neges o'r Bedd gan Pete Johnson

Dysgu Caru gan Lynda Waterhouse