Nôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis
  

Mae clawr y llyfr hwn yn edrych yn hynod ddiddorol.  Casgliad ydyw o saith o straeon byrion yn seiliedig ar chwedlau gyda bwystfilod neu anifeiliaid yn gefndir iddyn nhw.   Dwi'n siwr y bydd llawer o'r chwedlau, fel Gelert a hela'r Twrch Trwyth, yn rhai y byddwch wedi eu clywed o'r blaen, ond mae yma straeon llai cyfarwydd fel Y Ceffyl Dwr a Y Fuwch o Lyn Barfog.  Mae'r chwedlau yn cael eu hadrodd mewn ffordd hawdd, bywiog a chyffrous ac mae yna lun lliw ar gyfer pob stori.  Gall rhai llyfrau chwedlau fod yn ddiflas, ond mae hwn yn wahanol.  Mwynheais i'r stori am yr afanc enfawr yn cael ei lusgo gan Ychen Bannog i lyn arall yn bell o'r pentref.  Yn y stori dywedir i un ychen ei dynnu mor galed nes i un o'i lygaid syrthio allan – ych-a-fi!!

                                                                                               

                                        
Awdur:  Helen Emanuel Davies
Cyhoeddwr:  Gwasg Gomer
ISBN: 1859029183
Pris: £4.50