Nôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis
  

Dyma lyfr sy'n llawn o ddisgrifiadau arswydus a chymeriadau cyffrous. Os ydych yn hoff o lyfrau arswyd mae’r llyfr yma'n siwr o fod at eich dant ac yn sicr o yrru iasau oer i lawr eich cefn.

Mae Ed yn cael ei adael i warchod Iolo ei frawd bach, a’r bwjis yn nhy diethr ei Anti Myfanwy, tra fod ei rieni yn ymweld a hi yn yr ysbyty. Yno mae’n manteisio ar y cyfle i wylio ffilm arswyd am Frenin y Fall, ar y teledu. Cred na all fod unrhyw beth gwell ac yntau i ffwrdd o’i gartref a’i ffrindiau. Ond wrth i’r noson fynd yn ei blaen ag i’r ffilm ddwysau mae ffuglen y ffilm a realiti yn dechrau cymysgu a digwyddiadau yn y ffilm yn digwydd i Ed hefyd.

Beth yw achos marwolaeth y bwjis? Beth yw’r salwch sy’n taro Iolo? Pwy yw Brenin y Fall? Beth sydd yn digwydd i arwres Ail Ryfel Byd Anti Myfanwy? Beth yw Bargen y Brenin? Bydd rhaid i chi ddarllen y llyfr i ddarganfod yr atebion i’r dirgelion arswydys yma.

                                                          

Awdur: Glenys Lloyd
Cyfres Gwaed Oer: Gwasg Gomer
ISBN:
Pris £3.95