Nôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis
  

Mae'n siwr eich bod am wybod pwy ydy John Iorc? Archesgob tiroedd Gwynedd yn ystod adeg y Stiwardiaid oedd o, a chefnogwr y brenin.  Dyn uchel ei barch, hael a charedig wrth y tlodion, yr esgob mwyaf enwog - yn ôl ei garreg fedd ym mynwent Llandegai ger Bangor.

Ond mae’r stori hon yn ymwneud â Rhys, hogyn stâd Penrhyn yn fwy na'i arwr mawr, John Iorc.  Mae Rhys yn cael ei anfon i Ysgol y Brodyr Duon, Bangor, ble mae’n rhaid iddo ddysgu siarad Lladin drwy’r dydd.  Doedd Rhys ddim yn edrych ymlaen o gwbl, ac ar ôl tair wythnos yn yr ysgol mae o’n rhedeg i ffwrdd.

Mae o’n ymuno â’r porthmyn sy’n gyrru anifeiliad Môn i lawr i’w gwerthu yn Llundain.  Ond mae’r gwaith yn llawn peryglon oherwydd y rhyfel cartref rhwng y Brenin Siarl 1 ac Oliver Cromwell. 
                                                        
Pa ochr fydd yn llwyddiannus?  A fydd Rhys yn chwarae rôl yn y frwydyr?
                                                                             

Awdur: BrendaWyn Jones
Darluniau Jac Jones
Gwasg Gwynedd £3.99
ISBN 0 86074 178 8