Bydd y nofel hon yn apelio fwyaf at enethod
dybiwn i, yn enwedig y genethod hynny syn hoffi straeon anifeiliaid. Mae Emily
Huws wedi cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol a ffeithiau am edrych ar ôl cathod, ond
mae wedi creu hefyd, stori ddifyr iawn gyda dirgelwch yn perthyn iddi. Mae Zöe yn
achub cath fach or afon, ac maen dychryn wrth sylweddoli bod rhywun creulon
wedi caur gath mewn bocs ac wedi ei thaflu ir dwr er mwyn cael gwared
ohoni. Mae dirgelwch arall hefyd: pwy yw AAA (Anghenion Anifeiliaid Anwes) syn
hysbysebu yn y papur newydd, a pham eu bod yn gofyn am gathod bach? A pham hefyd nad
yw Melanie, y ferch newydd yn yr ysgol, yn edrych fel pe bai yn nabod ei henw? Oes
ganddi hi gyfrinach maen ceisio ei gadw rhag Zöe? Mae Zöe yn benderfynol o
ddod o hyd ir atebion, ond nid ywn barod am yr hyn syn digwydd ar
ddiwedd y nofel chwaith! Mae hon yn nofel syn darllen yn eitha hawdd, ac
roeddwn yn hoffir elfennau o ddirgelwch syn plethu trwyr stori.
|