Llyfr
y Mis |
Mae ‘na bethau amheus yn digwydd yn y maes awyr hefyd – pam fod un o’r peilotiaid yn flin ar ôl i Llinos dynnu llun o’i awyren? Pwy oedd y teithwyr dirgel? Ydi hi’n wir fod rhywun yn smyglo cyffuriau? Rhaid i Rob a Llinos geisio datrys y dirgelwch ond mae eu bywydau mewn perygl. Wrth neidio o’r awyren mae parasiwt Llinos yn torri ac mae hi’n hyrddio’n wyllt trwy’r awyr. Rhaid i Rob ei helpu ond mae’r ddaear yn dod yn nes bob eiliad….. Stori
gyffrous yn y gyfres Byd o Beryglon sy’n siwr o apelio at bawb sy’n
hoffi antur. |
|
Awdur:
Gary Paulsen (addasiad Esyllt Nest Roberts) |