Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis
  

Dyma’r nofel gyntaf erioed yr awdur a ddaeth a’r Llewod i ni.  Os ydych wedi darllen y Llewod a’i peidio, eu mwynhau neu beidio, bydd y nofel hon yn sïwr o danio eich dychymyg.  Mae hon yn nofel antur ar ei gorau, yn llawn cyffro a throadau annisgwyl yn y plot.
           
Er mai teitl y nofel yw Jac Jamaica, prif gymeriad y nofel yn wir yw Barti Ddu, y môr leidr enwog o Gymru. Ar ddechrau’r stori llongwr cyffredin ar long fasnach yw Barti Ddu.  Pan mae morladron yn ymosod a’r y llong mae  Barti Ddu yn penderfynu troi ei law at fod yn fôr leidr ei hun.  Ar y llong yma mae Barti Ddu yn cyfarfod Jac Jameica. Sais creithiog a gwyllt mae pob morwr yn ei ofni yw Jac.  Mae  Jac a Barti Ddu yn troi’n elynion pennaf ac fe fu sawl brwydr câs rhyngddynt.
          
Darllenwch y nofel hon i ddarganfod  sut yn union mae Barti Ddu yn profi i fod yn un o fôr ladron gorau’r oes.  A fydd “tri chynnig Cymro” yn ddigon iddo drechu Jac Jameica?  
                   

Dafydd Parri
Gwasg Carreg Gwalch
ISBN: 086317777
£3.99