Ydych
chi wedi bod ar eich trip ysgol eto? Mae'r Clwb Cysgu Cwl wedi bod,
a maen nhw'n ôl i ddweud eu hanes. Y tro yma mae Ali yn
dweud y stori, stori am drip ysgol i Sbaen.
Wrth gwrs, roedd y gennod wrth eu boddau. I gychwyn, doedd Ffi ddim
eisiau mynd, ond mi gafodd hyn ei ddatrys yn sydyn. Mi fedrwch fod
yn siwr nad oedd torheulo ar y traeth a mynd i ddisgo yn y nos yn ddigon iddyn nhw!
O fewn dim mae'r Clwb yng nghanol helynt ac antur! Mae pethau yn cychwyn o
chwith pan mae Sbaenes o ysgol arall yn gas efo Sam am geisio cipio ei bag
trwy ddamwain. Wedyn, mae llawer o
chwarae triciau ac ymlusgo i lawr coridorau yng nghanol nos. Ond,
fel arfer mae
popeth yn gweithio allan yn y diwedd!
|