Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis
  

Dyma stori sydd wedi ei seilio ar ddigwyddiadau yn 2001, pan oedd y clwy traed a’r genau yn achosi poendod i ffermwyr ledled y wlad.  Adroddir yr hanes ar ffurf dyddiadur gan Beca, merch fferm dair ar ddeg oed.   Mae’r dechrau yn ein cyflwyno i Beca, ei theulu, ac anifeiliaid y fferm, fel Caradog y tarw, Jemeima’r hwch, Josh bach yr oen, Bobs y ci a Glain ei cheffyl.  Wrth i’r clwy nesau tuag at y ffermydd cyfagos mae'r stori'n  cyflymu ac yn mynd yn fwy diddorol.  Dim ond anifeiliaid sydd â charn hollt mae’r clwy yn ei daro, felly mae Glain a Bobs yn saff…ond rhaid i Beca wylio pob un anifail arall ar y fferm yn cael eu difa.  Gan ein bod ni wedi dod i adnabod yr anifeiliaid yn dda, mae’n anodd iawn darllen amdanynt yn gorfod cael eu lladd.  Mae’r rhan yma o’r stori yn erchyll a thrist ofnadwy.  Bydd plant nad ydynt yn byw yn agos i gefn gwlad, yn gallu deall teimladau’r ffermwyr gafodd eu heffeithio gan y clwy’ yn llawer gwell ar ôl darllen y llyfr hwn.

 

Awdur:  Michael Morpurgo , addasiad Gwen Redvers Jones
Gwasg:  Gomer
ISBN:  1843231395
£3.95