Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

Paid a darllen y llyfr hwn os wyt yn hoff o gathod! Os wyt ti’n meddwl fod llygod yn bethau bach ofnus a diniwed, bydd y stori hon am lygod - Tomos, Richard a Henri - yn gwneud i ti feddwl eto. Nid unrhyw Twm, Dic neu Harri o lygod yw’r tri ond y TRINS TALOG - brodyr bywiog iawn sydd yn byw ar Fferm y Berllan.

Lladdwyd tad y Trins gan gath, a hwythau ddim ond ychydig ddyddiau oed. Ar ôl iddynt agor eu llygaid a magu cotiau blewog penderfynodd eu mam mai nid llygod bach ofnus fyddai’r tri, ond rhai dewr fyddai’n dial am farwolaeth eu tad. Dysgodd gân arbennig i’r tri oedd yn dechrau fel hyn:

"Paid cysgu na gorffwys Pws
Na chuddio dan y bwrdd
Tri dewr o’r atig Pws
Sydd am dy hel i ffwrdd…"

Hoff gêm y Trins, heblaw am ddychryn cathod, yw Trwynbêl, sef pêldroed i lygod!

Mae holl lygod y fferm yn ymuno yn yr hwyl, ac felly, mae’n rhaid cael twrnament gan ddefnyddio rhywbeth arbennig iawn fel pêl. Os wyt ti eisiau gwybod beth yw’r bêl arbennig, os yw’r Trins yn cael gwared o’r cathod ac ennill y bencampwriarth - rhaid i ti ddarllen y llyfr!

Addasiad Cymraeg Mair Wynn Hughes o stori Dick King Smith

Uned Iaith Genedlaethol Cumru (CBAC) £3.99

    
Stori arall gan awdur y llyfr gwych 'Y Mochyn Defaid' sef stori y ffilm enwog 'Babe'.