Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis
  

Ar Chwefror y cyntaf bob blwyddyn mae yna dusw o eirlysiau yn cael ei adael ar fedd bach heb enw yn y fynwent ar yr ynys. Does neb yn gwybod pwy sydd yn ei adael.  Mae Gwyn, sydd wedi hen ddiflasu ar gael ei alw'n fabi mam,  yn penderfynu profi pa mor ddewr ydi o. Mae'n herio ei ddau ffrind, Dewi ac Alun, i fynd gydag ef i'r ynys ar noson olaf Ionawr i weld os wela’n nhw pwy sydd yn gosod y blodau ar y bedd.  Pa un o'r tri ffrind fydd y dewraf?  Beth wela’n nhw ar yr Ynys?
           
Byddwch yn ddewr a darllenwch y llyfr i gael yr hanes i gyd!


Awdur:  Nesta Griffith
Gwasg:  Gomer (Cyfres Gwaed Oer)
184323050x
£3.95