Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis
  

Ail nofel  Ruth Morgan yw hon am y cymeriadau bywiog Gorau ac Arwr y ceir bymper.

Mae casgliad Yncl Wil o eitemau ffair ail law wedi cynyddu ac erbyn hyn mae ei gartref wedi troi, gyda help Lowri ei wyres, yn ffair hwyl i blant yr ardal.  Ond wrth i’r ffair gynyddu yn ei boblogrwydd mae Yncl Wil yn mynd i drafferthion ariannol ac wrth i hyn ei boeni mae’n gwylltio gyda’r ddau gar bymper a’u danfon i’r sied.  Dyma ddechrau antur i’r ddau sy’n eu harwain i’r ffair arswyd a Dr Snich.  Ond pwy yw Dr Snich – darganfyddwch wrth ddarllen y nofel fer hon.

Stori fywiog, deimladwy yw hon sy'n dangos pa mor bwysig yw ffrindiau a chymuned.  I gyd fynd a’r stori mae lluniau bywiog du a gwyn.

 


Awdur:  Ruth Morgan
Llyfrau Lloerig
Gwasg:  Gomer
1843231387
£3.95