Sawl
gwaith ydych chi wedi bod am dro ar hyd glan y môr, chodi carreg anarferol
a'i rhoi yn eich poced i ddod a hi adref? Lawer gwaith, mae'n siwr, fel
finnau. Mae yna ryw hud yn perthyn i garreg o liw a siap arbennig
yn 'does? Dyna yn union wnaeth Steff yn y llyfr yma.
Ond
wnaeth o erioed feddwl y buasai un garreg fechan yn achosi cymaint o hwyl
a helynt iddo. Dyma stori ddifyr am rhywbeth cyffredin yn creu miri
a drygioni anghyffredin!
|