Rhag
ofn nad ydych wedi dod ar draws y llyfr yma yn Gymraeg eto, dyma addasiad
o 'Charlie and the Chocolate Factory' wedi ei gyfieithu gan Elin Meek.
Pam ddarllen y nofel hon yn Gymraeg medde chi? Wel, mae'r cyfieithiad
yn andros o ddarllenadwy ac ar ôl ychydig, rydych chi'n
anghofio bod y fersiwn gwreiddiol wedi ei ysgrifennu yn y Saesneg, ac yn
dechrau cael blas ar y stori yn Gymraeg.
Mae Mr. Wonka y perchennog ffatri siocled enwog, yn agor ei ddrysau i bum
person lwcus i gael taith o amgylch y ffatri, ac mae un ohonyn nhw yn
cynnwys y bachgen ifanc Charlie Bucket. Fel llawer o nofelau eraill
Roald Dahl, mae yna bethau annymunol yn digwydd, ac mae moeswersi pwysig
hefyd yn y stori. Beth sy'n digwydd i Mike Teavee, Veruca Salt,
Violet Beauregarde ac Augustus Gloop yn y ffatri ryfeddol, ac a
ydyn nhw yn cael yr hyn mae nhw'n ei haeddu ar y diwedd?
|