Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis
  

Nid yw Pryderi yn cael diwrnod da - mae’n gadael y bêl i mewn i’r rhwyd wrth chware yn y gôl yn y gêm bêl-droed.  Yr unig beth sydd ar feddwl ei ffrindiau yw’r gêm gyfrifiadurol Eifftiaid Erchyll 3, ond does gan Pryderi druan ddim cyfrifiadur. Yn waeth byth, mae ganddo brawf TASAU Mathemateg i edrych ymlaen ato yn y prynhawn.

Ond, a yw lwc Pryderi am newid wrth i’w rieni gytuno o’r diwedd i brynu cyfrifiadur iddo?  Am siom!  Nid peiriant newydd sbon maen nhw’n ei brynu iddo, ond rhyw hen beiriant gwael o gefn siop Wncwl Harri.  Yn ddiarwybod i Pryderi, mae yna raglen beryglus ar ddisg galed y cyfrifiadur yn aros i’w dynnu i m

ewn i fyd rhyfedd, llawn problemau y mae’n rhaid iddo eu datrys…


Awdur:  Aled O Richards
Gwasg:  Gomer
ISBN:  1843231662
Pris:  £4.95