Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis
  

Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, casgliad o straeon am rygbi a gawn yn y llyfr yma .  Mae gan y pum stori fer hiwmor, emosiwn a chymeriadau cryf.  Mae un cymeriad talentog ar y maes rygbi ym mhob stori, ond mae pob un yn wynebu rhyw broblem. Mae gan Daniel ddyfodol disglair ond dim cefnogaeth gan ei dad. Neu beth am Arwel sydd angen dewis rhwng chwarae i Gymru neu Awstralia.  Os am hiwmor pur mae stori Dafydd y dyfarnwr yn siwr o godi gwên wrth i gêm rhwng y timau merched lleol fynd o chwith.  I ddarganfod beth sy'n digwydd i Dafydd bydd yn rhaid i chi ddarllen y llyfr.
          
Mae’r storiau yma yn siwr o apelio os ydych yn hoff o rygbi, chwarae neu wylio.  Mae digon o hiwmor, emosiwn a chyffro yn y storiau i apelio at ddarllenwyr nad ydynt yn mwynhau chwaraeon.

            
Golygydd:  Alun Wyn Bevan
ISBN:  1843230380
Gwasg:  Gomer
Pris:  £3.95