Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis
  

Os ydych yn hoffi edrych ar luniau wrth ddarllen stori dyma'r llyfr i chi.  Stori  sy'n gyrru ias fechan i lawr eich asgwrn cefn ac mae'r lluniau lliw llawn yn ychwanegu llawer at yr awyrgylch yn y llyfr.

Mae'r stori wedi'i lleoli yn Awstralia ac yn adrodd hanes dau ffrind Spike a Ricky sy'n penderfynu mynd i nofio.  Does dim byd cyffrous yn hynna medde chi, OND ble yn union mae eu pwll nofio a beth yn hollol sy'n digwydd i Ricky?  Darllenwch Yr Hen Dwr i ddarganfod yr atebion.

            
Awdur:  Gary Crew
Gwasg:  Gomer
ISBN:  1843231948
Pris:  £5.99