Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis
  

Addasiad yw’r llyfr yma o “James and the Giant Peach.” Fe’i gyfieithwyd  gan  Elin Meek a addasodd “Charlie a’r ffatri siocled” i’r Gymraeg. Mae’n werth darllen y nofel hon, hyd yn oed os ydych yn gyfarwydd â’r fersiwn Saesneg, gan fod y cyfieithiad yn slic a'r cerddi wedi eu haddasu’n dda ar gyfer y fersiwn Gymreig. Cewch gyfle arall hefyd i fwynhau darluniau Quentin Blake.
             
Mae’r stori am fachgen bach unig o’r enw James Henry Trotter, sy’n cael llawer o anlwc nes iddo ddarganfod eirinen wlanog enfawr yn tyfu ar goeden yng ngwaelod gardd ei ddwy fodryb gas.  Mae’n mynd ar drip ffantasïol gyda chriw amrywiol o greaduriaid, ac mae antur anghygoel yn cychwyn.  Ceir llawer o foeswersi yn y llyfr, ond yn bennaf mae’n stori gyffrous, afaelgar, ac mi fyddwch yn awyddus i weld os oes diwedd hapus i antur James a’i ffrindiau.

                    

Awdur:  Roald Dahl
Addasiad:  Elin Meek
ISBN:  1904357024
Pris:  £5.99