Llyfr y Mis |
Fel arfer nid oes dim yn arbennig o ddoniol am fynd ir ysbyty i
dynnu eich pendics - ond os yw Ms.Swyn yno gall pethau rhyfedd iawn ddigwydd! Hi yw doctor newydd yr Ysbyty, ac mae Sulwen ei chath a Llwydwen ei
llygoden fawr yno i'w chynorthwyo.Hud a lledrith Ms Swyn ywr union beth
i godi calon Jac Tomos ar plant sydd yn yr ysbyty. Bu Ms Swyn yn athrawes yn
ysgol Jac a gallai ddatrys unrhyw broblem gydai hud anhygoel. Ond mae ei
swynion yn gwneud ir doctoriaid ar nyrsys deimlon ofnadwy heb sôn am
driciau Sulwen a Llwydwen!
Yn sydyn mae pendics yn dianc o botel,
nodwyddau'n plygu, stethosgops yn canu, brwsys yn hedfan a phob math o bethau eraill yn
digwydd!
Maen stori ddigri ac
mae lluniau gwych Tony Ross yn ddoniol iawn hefyd - rhaid edrych ar y llun or
Prif Nyrs ar botel pi-pi!
Addasiad gan Rhian Pierce
Jones o stori Terence BlackerGwasg Gomer £2.50 |
| Mae dwy stori arall am Ms Swyn yng Nghyfres Cled: Croeso Ms Swyn Ms Swyn Dan Glo |