Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis
  

Dyma hwyl!  Stori dditectif Gymraeg i blant, gyda'r ditectif newydd, Tomos Aled Beynon, 11 oed, sy'n byw ar Stad Bryn-crin, yn seren gyda'i gi ffyddlon, Locsyn.  Mae Tomos eisiau bod yn dditectif, ond erbyn hyn, dydy o ddim wedi cael cês go iawn; jyst wedi rhoi help llaw i bobl y stryd ddod o hyd i bethau ar goll.  Nawr, mae Ty Mawr ar ben y stad yn wag, ac mae Nain yn anfon Tomos, gyda teisen, i groesawu'r bobl newydd.  Ond mae beth mae Tomos yn ei weld yno yn ei boeni - ty gwag efo lori ddu y tu allan, trap o flaen y drws ffrynt, a dau o bobl od sy'n mynnu eu bod yn ffermwyr o Lanfairpwll.  Dydy Tomos ddim yn oedi i ddatrys y dirgelwch!

A mae gennych chi siawns i ddatrys y cês ar yr un pryd â Tomos - mae 'na gliwiau yn y llun sydd ar ddechrau bob pennod.  Ar wahân i'ch cadw ar bigau'r drain, mae'r llyfr yn llawn hiwmor, yn arbennig helbulon Locsyn, y ci.  Oeddech chi'n gwybod ei fod yn gwisgo sarong du yn y nos i guddio ei smotiau gwyn, neu yn jel gwallt ar ei glustiau i'w cadw nhw yn yr awyr?

Ar ôl darllen y stori, bydd siawns i gyfarfod a Tomos a Locsyn eto.  Mae'r ail stori yn y gyfres, Tab a'r Cadabras, allan yn barod, sef, Dirgelwch y Powdr Cosi.

       

Awdur: Siân Lewis
Gwasg:  Gomer
Pris:  £4.99
ISBN 1 84323 258 8