Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis
  

Mae Ceri Gruffydd ym Mlwyddyn 7 ac yn gwirioni ar bêl-droed.  Y drwg ydi, wnaiff yr hogia ddim gadael iddi chwarae yn yr un tim a nhw ac nid yw'n gwybod beth i'w wneud am y gorau.  Mae hi mewn helbul byth a beunydd am gicio pêl a chwalu ffenestri, a thrwy chwalu ffenestr ei chymydog, Mrs Higginbottom, daw'n ffrindiau agos gyda hi.  Cyngor call Mrs Higginbottom sy'n llwyddo i wireddu breuddwydion Ceri yn y pen draw.  Rydych chi'n teimlo eich bod yn dod i nabod Ceri yn dda wrth ddarllen am ei theimladau a'i phroblemau. Fyddwch chi fawr o dro yn darllen y nofel wych hon!

 


       

Awdur: Bethan Gwanas
Gwasg:  Y Lolfa
Pris:  £2.95
ISBN: 0862436923