Llyfr y Mis |
Efallai bod rhai ohonoch wedi dod ar draws Ms Swyn yn
Saesneg, sef Ms Wiz. Wel, dyma hi yn ymddangos yn Gymraeg am y tro cyntaf, ac yn cychwyn ei gwaith fel athrawes dosbarth newydd Blwyddyn 5 yn Ysgol Tudwal Sant. Wnai ddim dweud gormod am y stori wrthoch chi ond mae hi'n stori hwyliog sy'n hawdd iawn ei darllen, ac mae yna ddigonedd o hwyl a miri pan fo Ms Swyn yn gwneud ei hud. Dewch i ddarllen am helyntion Catrin, Caryl, Jac a Byns wrth iddynt brofi gwersi rhyfeddol Ms Swyn, a beth yw hanes gweddill yr athrawon yn yr ysgol? Tydyn nhw ddim wedi rhoi fawr o groeso iddi a dweud y gwir. Cadwch lygad allan am y dylluan sydd â ffordd od iawn o ddysgu Mathemateg! Addasiad Rhian Pierce Jones o
stori Terence Blacker |
| Darllenwch ddwy stori ddoniol arall am Ms Swyn: Doctor Swyn Ms Swyn dan Glo. |