Fuasech chi'n fodlon petai gennych chi riant oedd wrth ei fodd yn dyfeisio
pob math o bethau - pethau od, fel bisgedi ffrwydrol?
Wel, mae
Ffiffi (Ffion mewn gwirionedd) yn ei chael braidd yn ddiflas weithiau i fyw gyda'r
Teclyn-ddyn (llysenw Ffiffi am ei thad), er bod y teimladau hyn yn diflannu'n llwyr y dydd
mae ei thad yn cael ei herwgipio am un o'i ddyfeisiadau - un y medrir ei ddefnyddio i
ddwyn miliynau o bunnoedd!
Darllenwch sut y mae Ffiffi
a'i dwy ffrind, Anwen a Lowri, yn defnyddio'r Pecyn Ysbïo wnaeth Teclyn-ddyn er mwyn
helpu i'w achub.
Mae hon yn stori gyffrous,
ac fe fyddwch yn cael llawer o syniadau ynglyn â sut i fod yn dditectif da.
|