Yn ôl i'r
Silff Lyfrau...

Llyfr y Mis

A glywaist ti am hanes pentref Capel Celyn ym Meirionnydd? Dyma stori gyffrous am bobl y pentref hwnnw a’u brwydr yn erbyn cynlluniau i foddi eu cartrefi yng Nghwm Tryweryn.   Cawn hanes y frwydr trwy ddilyn hynt a helynt bedwar o blant sydd yn ddisgyblion yn Ysgol Capel Celyn dros bedwardeg o flynyddoedd yn ôl.

Mae Iolo wedi clywed si anhygoel yn y Bala fod pobl Lerpwl eisiau boddi Cwm Tryweryn.  Nid yw ei ffrindiau yn ei gredu yn y lle cyntaf ond yn fuan iawn maent yn clywed mai nid palu celwyddau mae Iolo.  Mae Cyngor Lerpwl yn bwriadu symud pobl allan o’r Cwm a chwalu’r holl adeiladau er mwyn creu cronfa ddwr.  Maent yn meddwl mai dyma’r ffordd orau i wneud yn sïwr fod gan y ddinas digon o ddwr hyd diwedd y ganrif.

Mae’r frwydr i achub Tryweryn yn tyfu yn ymgyrch cenedlaethol gyda phlant y Cwm yn chwarae rhan bwysig yn y protestio.   Os nad wyt wedi clywed am Capel Celyn a’r ymgyrch i’w achub darllena y stori hon am ddigwyddiad pwysig yn hanes Cymru.

Mae’r llyfr yn un o Gyfres Corryn

Gwasg Gomer £3.50