Deunyddiau Darllen Grwp                                                           
STORIAU     

Gweithgareddau

Sgidia Ryan Giggs

"Dwi’n gweld efo fy Ilygad fach i, rhywbeth yn dechrau efo-o-o...G!"

Tawelwch Ilethol.  Doedd dim i’w glywed ond swn mwmian injan y car yn gyrru i lawr y draffordd.  Meddai Hanna eto,

"Wel! Dewch ‘laen! Rhywbeth yn dechrau efo G!"

Dechreuodd Dad a Mam weiddi rhestr o eiriau yn uchel.

"Glaswellt?"

Ysgwydodd Hanna ei phen.

"Ym... glaw?"

"Naci."

"Gwregys diogelwch?"

"Na."

"Goleuadau traffig?... Gwair?... Gwellt?... Gwyneb?... Gwasgod?... Gewin?...Gwylan?.."

Parhaodd Dad a Mam i restru pob gair oedd yn cychwyn gyda’r lythyren G yn yr iaith Gymraeg, ond heb fawr o lwc. Eisteddai Hanna yn sedd ôl y car, â gwên fodlon, braf ar ei hwyneb. Trodd i edrych at ei brawd iau oedd yn hepian cysgu wrth ei hymyl, a rhoddodd bwniad sydyn iddo yn ei stumog. Deffrodd yntau mewn braw, a syllu’n flin ar Hanna.

"Tyrd, Rhydian. Mae’n rhaid i ti chwarae’r gêm ‘ma!"

"Giggs," oedd ei ateb swta, gan syrthio’n ôl i’w drwmgwsg.

"M-A-A-A.M!!," protestiodd Hanna, a chwyno’n ddi-ben-draw nad oedd Rhydian yn cymryd y gêm o ddifrif.

Naw milltir, a chwarter awr yn ddiweddarach, roedd Rhydian yn dal i gysgu’n sownd, a Dad a Mam mewn penbleth llwyr wrth geisio datrys y gair cudd. O’r diwedd, gwaeddodd Hanna,

"Reit! Neb wedi dyfalu’n gywir? Mi wnai dd’eud yr ateb ta. Y gair oedd ...GAER!!"

Chwarddodd Hanna yn uchel dros y car, gan hawlio buddugoliaeth fawr. "Hen hogan wirion," meddyliodd Rhydian, rhwng cwsg ac effro. "Efo C mae Caer yn dechrau prun bynnag." Syllodd drwy ffenestr y car, a gwelodd dwr yr Eglwys Gadeiriol, a’r swyddfeydd a’r siopau modern yn codi’n uchel i’r awyr gymylog.

Welcome to Chester, meddai’r arwydd ffordd, ond ‘roedd Rhydian ar dân eisiau mynd ‘nôl adref i Fwlch Mawr. Nid trip diddorol i’r sw oedd hwn i fod, ond yn hytrach, trip siopa am esgidiau newydd, yn barod ar gyfer tymor newydd yr ysgol.  I Rhydian Elis, roedd siopa yn uchel iawn ar ei restr o gas bethau, - yn ymladd am le ar y brig gyda nadroedd, brocoli, Mathemateg, a gemau plentynnaidd Hanna.

Erbyn amser cinio, ‘roedd Rhydian wedi cerdded milltiroedd ar filltiroedd o amgylch siopau esgidiau dinas Caer – neu’n hytrach, roedd yn teimlo’i fod wedi cerdded milltiroedd.

Dyna lle’r oedd y teulu, yn dilyn Mam o un lle i’r llall, fel trên bach yr Wyddfa.  Mam yn gwibio ar y blaen, yna Hanna yn sgipio’n llon ar ei hôl am iddi gael dillad newydd sbon danlli. Rhydian wedyn a’i ben yn ei blu, ac yn olaf, Dad druan yn cael trafferth mawr i gario oddeutu hanner dwsin o fagiau plastig ar bob braich.

‘Roedd ei fam yn ddynes anodd iawn iawn ei phlesio, ac yn gweld bai ar bob pâr o ‘sgidiau a welai. "Rhy ddrud," meddai am un ohonynt, "rhy fach am un arall, "rhy goman," am y lleill. Ond roedd Rhydian yn gwybod yn iawn sut rai yr hoffai ef eu cael.  Stopiodd yn stond with basio heibio siop chwaraeon.  Cerddodd yn araf at y ffenest, a safodd yno’n geg-agored, a’i lygaid fel soseri.

'Esgidiau Ryan Giggs,’ meddai wrtho’i hun, wrth weld y pâr du a gwyn, sgleiniog, ffasiynol yn sefyll ar stand arian. Gwenodd wrth feddwl amdano’i hun yn cicio pêl ar gae’r pentref, yn yr esgidiau arbennig hynny.  Lledodd y wen yn fwy wrth feddwl mor genfigennus y buasai ei ffrindiau yn Ysgol Gynradd Llanllechog, a’r genod i gyd wedi mopio’n lân gyda phishyn diweddara’ Cymru...

Yn sydyn, teimlodd ewinedd miniog ei fam yn crafangu yng ngholer ei grys, a’i dynnu’n ôl yn hollol ddi-seremoni oddi wrth y ffenestr.  Llusgodd ei fam ef i mewn i‘r siop esgidiau nesaf yn y ganolfan, a’i orchymyn i eistedd yn llonydd ar sedd gyfagos.  Eisteddodd Rhydian yno’n dawel, a syllu’n ddiflas ar ei fam yn estyn un o’r esgidiau duon mwyaf anniddorol ac anffasiynol, o’r silff.

Yna, heb bw na be, clywodd floedd vn atsain dros y siop "HWRE!!"   Gollyngodd ei fam yr esgid mewn braw, a cherddodd tair o wragedd y siop o nunlle, yn wên o glust i glust.  Daeth y wraig gyntaf at Rhydian, yn cario bocs esgidiau Iliw arian yn ei dwylo; yr ail ferch gyda photel anferth a siampên; a’r drydedd yn gwenu’n wirion wrth gario balwnau lliwgar. Yna, dechreuodd y wraig gyntaf siarad mewn Saesneg smart ofnadwy,

"Llongyfarchiadau mawr! Fel cwsmer rhif 1,000 i’n siop ni, chi yw enillydd ein gwobr abennig. Hwrê-ê-ê!!! A dechreuodd y dair ohonynt ddawnsio a phrancio fel wyn o amgylch Rhydian.

"Hollol boncyrs," oedd ymateb cyntaf Rhydian iddynt, ond buan y newidiodd ei dôn.

"Dyma," meddai Mrs Saesneg Crand, "eich gwobr fawr," ac agorodd gaead y bocs o’i flaen.

Rhythodd Rhydian i mewn i’r bocs, a bu bron iddo lewygu yn y fan ar lle...

Yr oedd y daith yn ôl adref i Ogledd Cymru yn un bur wahanol y noson honno. Yn y sedd flaen, gyrrai Dad y car, tra roedd Mam yn gwenu’n braf wrth afael yn y botel siampên.  Yn y sedd ôl, eisteddai Hanna yn dawelach na’r arfer, wedi llyncu mul.  Wrth ei hochr, roedd Rhydian ar ben ei ddigon, ar ôl y diwrnod siopa gorau a gafodd erioed.  Ar ei lin, roedd bocs esgidiau lliw arian - bocs yn cynnwys esgidiau pêI-droed unigryw... yn union fel rhai Ryan Giggs!

Stori gan Dylan Wyn Williams