Deunyddiau Darllen Grwp                                                           
STORIAU     

Gweithgareddau

"Cofiwch beidio mynd yn agos at y piano!" meddai Mam.

"Iawn, Mam," medden ni’n gôr.

"A gwyliwch Blewsyn! Gafaelwch yn dynn yn fy nghynffon i!"

"Iawn, Mam," medden ni eto.

Ac i ffwrdd â ni i chwilio am gaws i swper. Mam ar y blaen, a’i thrwyn yn ffroeni’r awyr, ei wisgers yn twitshan wrth arogli am Blewsyn. A ninnau’r plantos yn dilyn, yn dal yn dynn yn ei chynffon: Jini, Bolgi, Ffradach, Cadach, Titw (y fi) a Bitw. Doedden ni ddim yn cael mynd yn agos at y piano, achos yn y fan honno wnaeth Tada gael ei larpio gan Blewsyn, a diflannu i’w safn finiog flynyddoedd yn ôl.

Roedd gan Tada ddaint melys, ac roedd o’n arbennig o hoff o siocled. Roedd o wrth ei fodd efo’r adeg honno o’r flwyddyn pan oedd coeden yn y gornel a llwyth o oleuadau arni, a chnau ar hyd y llawr ym mhob man a digon o siocled i’w gael hefyd. A dyna lle’r oedd Tada yn bwyta siocled ar ben y piano pan ddaeth Blewsyn, doedd Mam ddim yn fodlon i ni fynd yn agos at y piano ers hynny!

Roedden ni hanner ffordd i’r gegin erbyn hyn, ac roedd arogl caws yn cryfhau bob munud. Yn sydyn, dyma Bitw yn diflannu o’r tu ôl i mi. Y cyfan welais i oedd ei gynffon yn diflannu tua’r pellter! Doedd dim i’w wneud ond ei ddilyn. Roedd o wrthi’n dringo i fyny cefn y piano!

"Eeee Bitw, tyrd nôl" gwichiais, ond doedd dim golwg ohono. Roedd top y piano yn uchel, uchel, uwch fy mhen i, ond doedd gen i ddim dewis. Dyma fi’n dechrau dringo i fyny yn araf, araf. Erbyn i fi gyrraedd y top, doedd dim golwg o Bitw yn unman, ond roedd yna glamp o wy Pasg mawr yn sefyll ar ben y piano.

"Bitw!" sibrydais, mor uchel â phosib! Roedd hi’n ddigon posib fod Blewsyn o gwmpas yn chwilio am ei swper ei hun!

"TITW! Helpa fi!" gwichiodd Bitw.

"Ust!" medda fi, "rhag ofn i Blewsyn glywed! Lle’r wyt ti?"

"Yn yr wy! A dwi methu dod allan!"

O na, beth nesaf! Es i at yr wy Pasg, ond doeddwn i methu gweld Bitw o gwbl. Doedd ond un peth i’w wneud!

"Bitw – rhaid i ti helpu fi i gnoi twll yn yr wy!" Ac felly, dyma’r ddau ohonom ni wrthi am y gorau yn bwyta’r siocled, nes i mi fedru gweld wyneb Bitw. Roedd hi’n braf iawn ei weld hefyd.

"Sydyn rwân" medda fi. "Dwi’n sïwr mod i’n medru arogli Blewsyn!" Roedden ni ar fin cael Bitw allan, pan yn sydyn, dyma Blewsyn yn neidio ar ben y piano a gwneud swn mawr! Disgynnodd wyau Pasg dros bob man, a dyma fi a Bitw’n sgathru i lawr cefn y piano.

Dim ond un problem oedd ar ôl bellach – cyrraedd y twll yn fyw. Roedd Blewsyn yn barod i neidio oddi ar y piano, pan ddaeth bloedd fawr.

"BLEWSYN!" Roedd ei feistr yn sgrechian arno am wneud yr holl lanast, a dyma fo’n cael ei daflu allan a chael chwip gan y brwsh! Roedd Bitw a finnau wrth ein bodd, a dyma ni’n rhedeg yn ôl i’r twll ar ein hunion, a dyna lle’r oedd Mam yn poeni amdanom ni.

"Wnewn ni byth adael eich cynffon chi eto Mam!" medde ni.

… A dydw i byth eisiau siocled eto yn fy mywyd!


gan Nia Môn