Deunyddiau Darllen Grwp                                                           
STORIAU     

Gweithgareddau

Roedd cyffro mawr yn Ysgol Rhydloyw adeg y trip blynyddol a doedd eleni ddim gwahanol. Byth ers i’r bws adael giatiau’r ysgol am wyth y bore, roedd y plant i gyd yn eu hwyliau – pob un yn eu dillad haf, eu gwallt wedi’i gribo’n dwt, a’r bocsys bwyd yn llawn danteithion blasus ar gyfer y picnic. Roedd Miss Jones yr athrawes yn hapus braf hefyd, ac yn falch o gael dianc o’r dosbarth am un diwrnod o leiaf. Dim angen poeni am osod gwersi Mathemateg, dim cur pen wrth drio dysgu’r dosbarth i chwarae recorder, a dim cinio ysgol! Nefolaidd! Ond, yn anffodus i Miss Jones, roedd un peth bach ar ôl i’w phoeni. Un peth bach nad oedd modd dianc rhagddo, hyd yn oed ar ddiwrnod y trip. Jason Vinny Ryan Jones oedd hwnnw – trwbwl, ceg fawr, a swnyn penna’ Dosbarth 3B!

Ochneidiodd Miss Jones yn ddiflas, wrth glywed un o’r gennodd yn cwyno bod Janson yn tynnu tafod ar y traffig oedd yn dilyn y bws ar hyd y ffordd fawr. Ond, pan aeth i gefn y bws i ddweud y drefn wrtho am y degfed tro y bore hwnnw, dyna lle’r oedd Jason – yn eistedd yn dawel yn ei sedd, yn edrych fel angel gyda’r mop o wallt melyn ar dop ei ben, ac yn gwenu’n ddiniwed gan fflachio’i ddannedd gwyngalchog ati.

Doedd pethau fawr gwell ar ôl cyrraedd y sw. Roedd Wena-Jên wedi bod yn beichio crio, ar ôl i Jason wneud hwyl am ei phen a’i galw’n ‘Wena Weiren’ gan fod ganddi weiars sythu dannedd yn ei cheg. Ar ôl i Miss Jones dreulio hanner awr yn ei chysuro, daeth Guto Wyn ati wedyn yn ddagrau i gyd, gan fod Jason wedi dwyn ei frechdanau ham a chaws ac wedi llowcio’r iogwrt mafon ar ei ben. Na, doedd heddiw ddim am fod yn hawdd o gwbl, meddyliodd Miss Jones yn drist.

Roedd gweddill y diwrnod yn y sw yn un antur fawr hefyd. Wrth iddynt gerdded heibio’r blychau gwydr lle’r oedd y nadroedd seimlyd yn byw, fe waeddodd Jason dros y lle i gyd: "Hei! Gwyliwch tu ôl i chi! Mae’r peithon Affricanaidd ugain troedfedd ‘cw newydd ddianc o’i gaets! W-a-a-a-a-a-a!!!" Fe lyncodd hanner y plant y stori, a gadael y lle mewn sterics llwyr, gan adael Jason yn chwerthin yn ei ddyblau.

Os oedd nerfau Miss Jones druan yn rhacs eisoes, roedd gwaeth i ddod. Aeth un o’r mwncïod yn swp sâl ar ôl bwyta llond boliad o gandi fflos Jason, ac roedd y parotiaid yn cyd-adrodd geiriau anweddus a ddysgodd iddynt. Draw ym mhwll y pengwiniaid, gollyngodd baced cyfan o sierbet i’r dwr, nes bod y creaduriaid yn nofio’n syn mewn môr o ewyn a swigod pinc a melyn, llachar! Na – doedd neb na dim yn saff rhag castiau Jason Vinny Ryan Jones. Ac eto ……….

Y gwn dwr a brynodd yn Siop y Sw oedd arf nesaf Jason i godi helynt. Ar ôl diflasu gwlychu bron pob un o’i gyd-ddisgyblion, yr eliffant oedd y targed nesaf – eliffant bychan, gyda phâr o glustiau’n fflapian yn y gwynt wrth iddo redeg yn chwareus ar y gwair.

"Ha!" ebychodd Jason, "rwan ga’ i hwyl efo Dymbo!"

Gafaelodd yn y gwn, chwistrellodd y dwr dros yr eliffant bychan, nes i hwnnw neidio mewn braw. Chwarddodd Jason yn uchel, wrth ei wylio’n rhedeg a baglu ar garlam gwyllt mewn cylchoedd o gwmpas y cae. Wedi iddo orffen chwerthin, agorodd ei lygaid, a syllodd o’i flaen. Llyncodd ei boer. Safai clamp o eliffantes Indiaidd urddasol o’i flaen, gan daflu’i chysgod drosto, â’r eliffant bychan yn swatio’n dynn-dynn wrth ei hymyl. Roedd Jason wedi mynd braidd yn rhy bell efo hon. Syllodd yn geg agored wrth ei gwylio’n sugno pob diferyn o’r tanc dwr mawr gerllaw gyda’i thrwnc di-ddiwedd. Yna, saib. Yn sydyn, heb bw na be, anelodd ei thrwnc yn syth at Jason, a chwistrellu galwyni o ddwr rhewllyd oer drosto ….

Ar y ffordd yn ôl adref o’r sw y noson honno, roedd pawb yn eu hwyliau. Yng nghefn y bws, roedd y plant yn canu ‘Bing-bong-be’ yn llawen. Yn y pen blaen, eisteddai Jason. Am y tro cynta’r diwrnod hwnnw, roedd yn dawel a di-stwr – ac yn wlyb diferol o’i gorun i’w draed. Wrth ei ochr, roedd Miss Jones yn hepian cysgu’n braf, ac yn gwenu wrth freuddwydio am yr eliffant bach a’i fam.


gan Dylan Wyn Williams