Deunyddiau Darllen Grwp
STORIAU     

Gweithgareddau

Arwr Dolanog

"Mi fuaswn i wrth fy modd yn gallu gyrru’r lori fawr yma."

"Fe fydd yn rhaid i ti aros am ychydig o flynyddoedd eto cyn gwneud, dwyt ti ddim ond wyth oed!"

Yr oedd David Richards ar ben ei ddigon yn cael mynd hefo’i dad yn y lori i wahanol lefydd yn Lloegr a Chymru. Cario llwyth anferth o wellt oeddynt ar y pryd o Newmarket i’w cartref yn Nolanog, Sir Drefaldwyn.  Bu’n daith flinedig a gwyddai Clive Richards y byddai'n rhaid iddynt chwilio am le i barcio dros nos cyn bo hir a chysgu yng nghaban y lori.

"Does dim golwg eisiau cysgu arnat ti, chwaith," meddai wrth David ar ôl llwyddo i ddod o hyd i faes parcio mewn lle o’r enw Burwell.

Ond ar ôl cerdded o gwmpas y lori i sicrhau bod popeth yn iawn roedd y ddau yn fwy na pharod i noswylio.

Cysgodd y tad yn syth ac er i’r bachgen barhau i ddychymygu ei fod yn gyrru lori, daeth cwsg ar ei warthaf yntau.

Yn sydyn cododd David ar ei eistedd pan glywodd swn car yn stopio yn eu hymyl. Syllodd drwy’r ffenestr i’r tywyllwch. Oedd, yr oedd dyn wedi rhedeg o’i gar ac wrthi’n rhoi’r llwyth gwellt ar lori ei dad ar dân!

"Hei!"

Dechreuodd David agor un o ddrysau’r caban gan weiddi ar y cnaf yr un pryd.

Meddyliodd yn sicr y buasai ei dad wedi deffro wrth ei glywed yn galw.  Neidiodd y dihiryn yn ôl i’w gar gan chwyrlio i ffwrdd ar ôl cyflawni ei weithred ffiaidd. Trodd David Richards yn wyllt at ei dad.

"Tân, Dad, mae’r gwellt a’r lori ar dân!"

Gwydddai’r plentyn fod eu bywydau mewn perygl gan y byddai’r fflamau yn sicr o ddifa’r llwyth gwellt yn fuan.

"Deffrwch neu fe gawn ein llosgi i farwolaeth!"

Cysgai Clive Richards yn drwm gan ei fod wedi blino’n llwyr ar ôl oriau o yrru’r lori ar ddiwrnod eithriadol o boeth yn ystod un o’r tymhorau sychaf erioed, haf 1995.

"Dad, Dad, gwrandewch plîs!"

Dechreuodd y bachgen grynu gan ofn. Nid oedd wedi dychryn cymaint yn ei fywyd. Dechreuodd sgrechian yng nghlust ei dad, a tharo’i ysgwydd â’i ddyrnau. Pam nad oedd yn deffro?

‘Doedd ond un peth i’w wneud. Ar ôl methu â deffro’i dad trwy weiddi a’i ysgwyd, dechreuodd ei gicio’r lloerig, - cicio’r person yr oedd yn ei garu fwyaf yn y byd.

"Be aflwydd..?"

Deffrodd Clive Richards o’r diwedd. Os bu'n hir yn agor ei lygaid, sylweddolodd mewn eiliad beth oedd wedi digwydd. Ffodd y tad a’r mab am eu bywydau o gaban y lori. Yr oedd yr olygfa a welsant yn un ddigalon.  Rhuai’r tân drwy'r llwyth sych a gwyddai’r gwr a'r bachgen nad oedd unrhyw obaith o’i ddiffodd.

"Tyrd oddi wrth y fflamau dychrynllyd ‘na!" gwaeddodd ei dad ar David.

Clywsant swn seiren car yr heddlu ac injan dân yn nesu. Yr oedd gwraig yn un o’r tai ger y maes parcio wedi eu galwn syth pan welodd y tân o ffenestr ei llofft.

"Ydych chi’ch dau yn iawn?"holodd un o’r plismyn ar ôl cyrraedd.

"Mae David wedi achub fy mywyd i," atebodd gyrrwr y lori yn dawel.

"Da iawn ti David! Nawr, dewch i’r car i eistedd. ‘Does dim byd y gallwch chi ei wneud," ebe plismon arall.

Wedi gwneud yn sicr nad oedd angen triniaeth mewn ysbyty ar yr un o’r ddau, ffoniodd y plismon orsaf yr heddlu gyda’r manylion am gar y dihiryn a gychwynnodd y tan.

"Ford Escort gwyn oedd o," meddai David, ond roeddwn i’n rhy brysur yn ceisio deffro Dad i sylwi ar rif y car."

"Mi fuost ti’n ddewr iawn" meddai Clive Richards. "Buasai llawer un wedi neidio allan o’r caban yn ei ddychryn ac wedi rhedeg i rywle am help. Pe byddet ti wedi gwneud hynny, mi allwn i’n hawdd fod yng nghanol y llanast y y fan acw."

Gwasgodd y tad yr hogyn yn dynn yn ei freichiau. Gwyliodd y ddau y diffoddwyr tân yn gwneud eu gorau i achub y lori ond, fel gyda’r llwyth, roedd eu holl ymdrech yn ofer. Cafodd y gwellt ei ddifa mewn amser byr iawn ac o fewn ychydig funudau nid oedd y caban ond plisgyn gwag a gweddillion y lori wedi eu llosgi’n ulw.

"Hen dro ynte Dad!"

"Paid ag edrych mor ddigalon," atebodd Clive Richards. "Mi rwyt ti’n arwr, fachgen, ac wedi gwneud rhywbeth y byddwn ni’n dau yn cofio amdano am byth."

"Ydi hyn yn golygu y byddwch chi allan o waith Dad?"   holodd David wrth i’r ddau gael eu cludo adref y diwrnod canlynol.

"Paid â phryderu am bethau fel ‘na. Bydd yr yswiriant yn gofalu na fyddwn ni ar ein colled. Wyt ti dal eisiau gwneud gwaith tebyg ar ôl yr holl helynt yma?"

"Oes siwr iawn!"

Aeth yr hanes drwy bentref bach tawel Dolanog mor gyflym â’r tân a losgodd y gwellt a’r lori.

Tyrrodd plant Ysgol Gynradd Llanfair Caereinion o gwmpas David i gael y stori i gyd. Gwrandawsant yn syn arno’n dweud yr hanes cyffrous, a phob un yn canmol y bachgen gwallt coch am ei ddewrder.

"Bril!"

"Grêt!"

"Mae yna lun ardderchog ohonot ti yn y County Times," gwaeddodd ffrind arno yn ystod amser chwarae.

"Fe fydd y genod i gyd ar dy ôl di ar ôl hyn," gwaeddodd un o’r bechgyn eraill gan dynnu ei goes.

Chwarddodd pawb wrth weld David yn sgrialu fel milgi ar ôl y bachgen ac yna’i bwnio’n chwareus am ddweud peth mor wirion!

 

Stori Wir gan Emrys Roberts