Deunyddiau Darllen Grwp                                                                
STORIAU     

bwlgwy.gif (841 bytes) Gweithgareddau

Floss

"Mae un o ffenestri’n ty acw wedi ei thorri."

"Ydi ac mae yna gi bach yn eistedd ar y palmant oddi tani."

"Mae rhywbeth o’i le!"

Stopiodd y gyrrwr y car a brysiodd dau blismon allan ohono.  Dechreuodd Floss y ci grio’n dawel wrth i un ohonynt afael yn ei war yng ngolau lamp y stryd.  Syllodd y llall drwy’r ffenest a dorrwyd.  Yr oedd yn amlwg bod lleidr wedi torri i mewn i’r ty hwnnw oedd yn Llanrhaeadr. Ond doedd dim golwg ohono.

"Roedd y cnaf wedi gadael ei gi y tu allan er mwyn i hwnnw gyfarth pe bai rhywun yn mynd heibio’r lle tra’r oedd yn dwyn," meddai un plismon.

"Ac fe ddiflannodd heb ei gi ffyddlon pan welodd ein car ni," ebe’r llall.

Treuliodd Floss weddill y noson honno mewn cell yng ngorsaf yr heddlu. Yr oedd y blismones wrth ei bodd yn rhoi mwythau i’r anifail a swatiau’n ofnus, er iddo gael llond ei fol o fwyd a llefrith gan y plismyn ifanc.  Caeodd y ci ei lygaid gan geisio cysgu.  Methai a deall beth oedd wedi digwydd.  Un funud yr oedd yn helpu ei feistr trwy gadw gwyliadwriaeth o dan y ffenest honno, a’r funud nesaf yr oedd dau ddyn dieithr yn ei gludo i ffwrdd yn eu modur. Onid oedd pobl yn bethau rhyfedd? meddyliodd Floss.

"Mae o’n siwr o’n harwain ni at ei feistr," ebe’r rhingyll fore drannoeth.

Ar ôl mwynhau ei frecwast, teimlai’r anifail yn fwy bywiog.   Ac roedd ar ben ei ddigon pan aeth ei ddau ffrind newydd â fo ar dennyn allan i'r awyr iach.

"Mae o ar dân eisiau mynd adre', mae'n amlwg," meddai un o'r plismyn a ddaeth o hyd iddo'r noson gynt. Roedd Floss yn brasgamu o'u blaenau.

Gwenai pobl ar y palmentydd wrth weld dau aelod o'r heddlu yn cael eu harwain gan y ci defaid.  Gwnaeth un sbort am eu pennau gan ofyn i'r plismyn oedden nhw'n rhy dlawd i brynu Alsatian!  Ond nid oedd y dynion mewn lifrai yn teimlo fel rhannu'r jôc gan fod ganddynt waith pwysig i'w wneud y bore hwnnw.  O'r diwedd, ar ôl tynnu a thynnu ar ei dennyn nes oedd bron allan o wynt, stopiodd Floss tu allan i ddrws cefn cartre'r lleidr mewn stâd o dai heb fod ymhell.

"Rydym yn eich arestio ar gyhuddiad o ddwyn y rhain," ebe'r plismyn ar ôl darganfod gemau, perlau a modrwyau yn y ty.

Gwadodd y dihiryn ei fod wedi eu lladrata. Ond dywedodd y ddau aelod o'r heddlu wrtho bod perchnogion y ty lle bu'n dwyn ohono ar eu ffordd adre o'u gwyliau ac y byddent yn gallu profi mai nhw oedd piau'r trysorau.  Gwadodd y lleidr ei fod yn adnabod Floss hefyd.  Ond chwarddodd y plismyn pan ddywedodd hynny, gan fod y bychan blewog yn llyfu wyneb ei feistr i ddangos mor falch yr oedd o fod gartref!

Cafodd perchennog Floss ei gludo i'r carchar i aros ei brawf. Torrodd y ci druan ei galon ar y pryd pan aeth y lleidr oddi wrtho am byth.  Er mai mewn cartref tlawd y cafodd y bychan ei fagu ac er mai ychydig o fwyd a gofal a gâi'r creadur tenau, yr oedd yn addoli ei feistr fel pob anifail anwes arall.

Fe fydd rhaid i'r Gymdeithas Atal Creulondeb i Anifeiliaid - yr RSPCA - edrych ar ei ôl," ebe'r rhingyll yn swyddfa'r heddlu ar ôl i Floss gael aros yno am ychydig ddyddiau.

Buasai'r blismones wedi ei gymryd ati i fyw mewn munud ond roedd ar fin cael ei symud i orsaf heddlu arall ymhell i ffwrdd.   Yr oedd gan weddill aelodau'r orsaf ddigon o anifeiliaid anwes eu hunain hefyd.   Felly doedd dim amdani ond cludo'r bwndel direidus i'w gartref newydd dan ofal yr RSPCA.  Ond er iddo gael pob croeso yno, daliai i hiraethu am ei feistr.  Credai ei fod yn byw mewn byd rhyfedd iawn.  Ai bywyd fel hyn oedd pob ci ei gael? meddyliodd wrth i un o'r cwn eraill geisio ymosod arno a dwyn ei asgwrn un diwrnod.   Ni ddychmygodd am eiliad bod newid syfrdanol yn ei hanes ar fin digwydd...

"Wyt ti wedi darllen hwn, Geraint?"

Dangosodd Nesta y papur newydd i'w gwr un bore'n fuan wedyn.

"Gad lonydd i mi orffen fy mrecwast wir," atebodd hwnnw gan wenu.

Dau o'r bobl mwyaf cyfoethog yn y byd oedd yn siarad â'i gilydd.   Darllenodd y biliwnydd Geraint James hanes ci'r lleidr ar ôl i'w wraig barhau i swnian arno.  Roedd y cwpwl yn byw mewn plas enwog ar stâd anferth ar y ffin â Lloegr.  Ac er bod gan Nesta James bopeth y gallai arian ei brynu, teimlai'n drist iawn ar y pryd gan fod un o'i chwn anwes newydd farw.  Gan fod hwnnw'n ffefryn mawr ganddi, cytunodd ei gwr y buasai'n syniad da i Nesta gael ci bach arall i godi ei chalon.

Dywedodd y wraig gyffrous wrth yrrwr ei cheir am gael un modur yn barod i nôl Floss.  Methai'r dyn ifanc â deall pam oedd rhaid mynd mor bell ar hyd y traffyrdd prysur i nôl rhyw fwngrel nad oedd meistres y plas erioed wedi ei weld.   Ond dywedodd o ddim byd! Hydref y pumed, 1996 oedd hi.

"Yn 'dwyt ti'n gi lwcus?" ebe'r ddynes garedig a edrychai ar ôl cartre'r cwn pan gafodd alwad ffôn gan Nesta James yn dweud ei bod ar y ffordd yno i nôl Floss.

Methai hwnnw â deall beth oedd yr holl gyffro pan gyrhaeddodd y car ysblennydd.  Syllodd ar y ddynes mewn dillad costus yn brasgamu amdano ac yn ei gofleidio wedyn.  Nid oedd Floss yn siwr a oedd yn hoffi’r fenyw ffyslyd hon!   Ond cafodd ei gario'n ddiseremoni gan y gyrrwr a'i roi mewn basged arbennig ar sedd ôl y car mawr gwyn.  Yna i ffwrdd â nhw ar ôl i Nesta James roi rhodd hael 'r bobl a edrychai ar ôl yr holl gwn.  Siaradai gwraig y biliwnydd yn ddi-baid wrth ei ochr ar hyd y daith adref i’w phlas.  Ond cafodd gyrrwr y car crand orchymyn ganddi i stopio bob hyn a hyn cyn cyrraedd er mwyn iddo fynd â Floss i'r toiled!

"Mae o wrth ei fodd."

Syllai Geraint a Nesta James ar eu ffrind newydd yn rhedeg yn ôl a blaen o dan y coed ar eu stâd ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.  Ni bu Floss erioed mor hapus.  Ar wahân i gael digonedd o fwyd a diod a lle moethus i gysgu, yr oedd cael chwarae'n rhydd yn y caeau a'r gerddi gyda’r anifeiliaid anwes eraill yn nefoedd iddo.  Yn lle byw yn dlawd ac mewn perygl o gael ei ladd gan draffig, yr oedd yn rhydd i neidio'n ddiogel neu gysgu'n braf ar lan pwll nofio'r biliwnydd a'i wraig.

"Yn ôl y sôn, 'dyw torri cyfraith byth yn talu!" chwarddodd Geraint James. "Ond mae'r troseddwr bach yma wedi bod yn lwcus iawn!"

Go brin bod unrhyw gi anwes heddiw'n cael byd brafiach na'r un a grynai gynt pan gafodd ei ddal gan blismon. Nid yn unig y mae Floss yn cael byw yng nghartref y biliwnydd a'i wraig, ond caiff fynd i hwylio’n aml hefo'n nhw yn un o'u cychod a hedfan yn un o'u hawyrennau preifat.  Bywyd hyfryd wir!

 

Stori wedi ei selio ar hanesyn gwir, gan Emrys Roberts