Deunyddiau Darllen Grwp
STORIAU     

bwlgwy.gif (841 bytes) Gweithgareddau

Miaw..Miaaaw!

"Caewch eich cegau!" gwaeddodd Mrs Jones drws nesaf o’i llofft a chau’r ffenest yn glep.

Tawodd Fflwffen am funud cyn penderfynu ail-gychwyn yr ymarfer. Doedd gan bobl ddim parch at gerddoriaeth ar ei gorau!

Roedd hi, Fflwffen, yn trio’i gorau glas i gael trefn ar ei grwp pop newydd, yn barod at Steddfod Calan Gaeaf.

Gwylio’r teledu oedd hi nos Sul o flaen y tan, tra’n molchi ei phawennau ar ôl bwyta anferth o bysgodyn blasus i swper. Dyma griw o ferched gwyllt yn dechrau canu - Spice Girls neu rhywun - a meddyliodd Fflwffen y gallai hi wneud yn llawer gwell na nhw, petai hi’n cychwyn grwp pop.

Aeth allan ar ei hunion i nôl Smwten drws nesaf, fyddai’n gwneud alto wych. Roedd Smwten yn ansicr iawn ar y dechrau, ond wedi peth meddwl ac ystyried fe gytunodd. Gallai ddychmygu’r gynulleidfa’n bloeddio ei henw mewn cyngherddau, a’r ffans yn ei stopio wrth iddi gerdded i lawr y stryd gyda’i chynffon yn yr awyr, gan ofyn iddi farcio’i phawen yn eu llyfrau llofnodion. Roedd yn syniad gwych!

Yna, aethant i nôl Tom Ty Top i fod yn faswr. Roedd o’n chwyrnu cysgu yn y gadair, a bu’n anodd iawn ei ddeffro. Buont yn mewian am amser maith. 0’r diwedd deffrodd Tom, ond bu’n dylyfu gên ac yn ystwytho ei goesau am dipyn, cyn holi Fflwffen beth ar wyneb y ddaear oedd mor bwysig nes peri ei ddeffro fo ar gymaint o frys?

"Dwi am ddechre grwp pop ar gyfer Steddfod Calan Gaeaf, a chi’ch dau fydd yn canu alto a bas!" cyhoeddodd Fflwffen!

Ar ôl ychydig o berswâd roedd y ddau yn barod i fod yn rhan o’r fenter. Gwelai Tom ei gyfle i ddenu edmygedd rhai o gathod mwya’ grwfi’r ardal, ac roedd Smwten yn fodlon gwneud unrhywbeth am dipyn o sylw!

Rhaid oedd dechrau ymarfer y noson honno, felly dyma drefnu i gwrdd am hanner awr wedi tri o’r gloch y bore, ar ben garej Mrs Jones drws nesaf. Roedd yn fan delfrydol ei acwstigs, ac roedd hanner awr wedi tri yn amser gwych achos byddai’r bobl i gyd allan o’r ffordd yn eu gwlâu. Roedd pawb yno’n brydlon a brwd i ddechrau’r ymarfer. Fflwffen oedd yn arwain a tharo’r nodyn, tra bod Smwten a Tom yn ceisio cadw mewn tiwn gorau y gallent.

"Eto, ar ô1 tri. 1...2...3...MIAAAW, MIAAAAW..."

Yn sydyn, daeth bloedd Mrs Jones i ddifetha’r cyfan - "Caewch eich cegau!" - a chaeodd y ffenest yn glep.

Wedi egwyl fer i adael Mrs Jones gysgu’n ôl yn ei rollers, ailddechreuodd yr ymarfer.

Cyn pedwar o’r gloch roedd Fflwffen wedi penderfynu bod rhywbeth ar goll, a’r swn ddim cweit yn plesio. "Dwi’n gwybod yn iawn beth sydd angen! Rydyn ni angen Mot i roi dyfnder arbennig i’r sain!" sylweddolodd Fflwffen.

"Ond, ci ydy o, a thydi cwn ddim yn medru canu!" ebychodd Smwten.

"Mae pawb yn ein ty ni’n gallu canu!" atebodd Fflwffen yn chwyrn. "Arhoswch fan hyn." Neidiodd oddi ar y to ac i mewn i’r ardd i ddeffro Mot. Roedd o wrth ei fodd, ond bu trafferth ofnadwy i’w gael i ddringo i ben to’r garej at y gweddill.

Erbyn hyn, roedd y swn ganwaith gwell, Fflwffen wrth ei bodd, a Tom yn dychmygu holl gathod yr ardal yn ei ffansio.

"Be gawn ni’n enw ar y grwp?" holodd Smwten. Roedd hon yn broblem a hanner.

"Beth am Tair Cath a Chi?" cynigiodd Mot. "Paid â bod yn hurt," atebodd Fflwffen. "Mae angen rhywbeth llawer mwy cofiadwy."

"Beth am Tom a’r Cathod" meddai Tom gan chwifio’i gynffon mewn boddhad.

"Dim cath ydw i!" atebodd Mot yn flin.

Cyn iddi fynd yn ddadl, meddai Fflwffen "Gawn ni un ymarfer arall. Ar ôl tri, un... dau... tri... MIAAW. . .MIAAAAAAW... BOW WOW!"

Yn sydyn, â’r grwp yng nghanol eu trydydd "MIAW" soniarus, daeth llond padell o ddwr oer, gwlyb, am eu pennau o gyfeiriad stafell Mrs Jones drws nesaf. Stopiodd eu canu’n syth, a safodd y pedwar yno’n wlyb diferol. Roedd eu cegau ar agor led y pen mewn braw a phob un ohonynt yn addo gwneud pethau ofnadwy i Mrs Jones y bore wedyn!

"Mi fydda i’n siwr o dyllu yng nghanol ei blodau newydd fory’, yr hen sguthan iddi!" cyfarthodd Mot, gan ysgwyd ei gôt yn flin. Chwythodd Smwten drwy ei dannedd yn gas, gan addo’n ddistaw bach byddai’n crafu’r paent oddi ar ddrws ffrynt Mrs Jones gyda’r wawr i dalu’r sguthan yn ôl am y wlychfa. Roedd Fflwffen yn sefyll yn stond yn crynu o’i chorun i’w phawen ac yn meddwl nad oedd y canu mor ofnadwy o ddrwg â hynny - oedd o? Ond, roedd Tom yn wên o glust i glust.

"Wel, dwi newydd feddwl am enw da i’r grwp beth bynnag!" meddai, gan edrych ar y tri arall yn wlyb socian. "Beth am alw’r grwp yn...

WET, WET’, WET!."’

    
Stori gan Nia Môn