Deunyddiau Darllen Grwp
STORIAU     

bwlgwy.gif (841 bytes) Gweithgareddau

Y Dant

"AWWW! Peidiwch!" gwaeddodd Owain. Roedd edau hir wedi ei glymu’n sownd i’w ddant, a phen arall yr edau wedi ei glymu i’r drws. Roedd dant Owain wedi bod yn rhydd yn ei geg ers wythnosau, ac erbyn hyn roedd hi’n hwyr glas iddo ddod allan.

Y broblem oedd fod hi’n noson tân gwyllt nos fory ac roedd o angen arian ychwanegol er mwyn cael sbarclyrs. Roedd o’n brin o 50 ceiniog, ac wedi rhoi ei fryd ar y sbarclyrs bob lliw newydd a welodd ar y teledu’n ddiweddar. Roedd ei fam wedi cytuno mynd i’r dre i brynu’r sbarclyrs, ac fe gai Owain chwarae gyda nhw yn y parti yn nhy ei ffrind nôs fory. Byddai 50 ceiniog y tylwyth teg yn ddigon i brynu’r sbarclyrs!

Roedd Owain wedi bod yn y drych am oriau ben bore yn ysgwyd ac ysgwyd y dant, ond ni ddoi’n rhydd.

Aeth at ei fam.

"Fedri di dynnu’r dant yma i mi Mam?" ac agorodd ei geg led y pen.

Stwffiodd mam ei bysedd i’w geg a dechrau troi’r dant.

"AWWW!" gwaeddodd Owain.

"Awww!" gwaeddodd Mam wrth i Owain ei brathu.

"Dos i ofyn i Taid wir! Dwi’n brysur."

"Safa’n llonydd Ows," meddai Taid, a chau’r drws yn glep.

Felly i ffwrdd ag o at Taid. Taid glymodd yr edau rhwng ei ddant a’r drws.

"Awww!" gwaeddodd Owain, ond roedd y dant yn ei geg o hyd. Doedd dim yn tycio.

Aeth i’r gegin at Nain gan fod arogl coginio hyfryd yn dod oddi yno.

"Nain, mae nant i’n rhydd," meddai mewn llais cwynfanllyd.

"Paid ti â phoeni," meddai Nain. "Gei di drio’r afal taffi yma i fi, cyn i mi fynd â nhw i’r parti tân gwyllt nos fory."

Roedd Owain wrth ei fodd, a chymrodd lond ceg o’r afal taffi.

"O, mae o’n dda Nain," meddai. "Ooo, be ‘di hwnna?" Syllodd ar yr afal yn hir. Yno, yng nghanol y taffi, roedd rhywbeth bychan gwyn yn sgleinio.

"Dy ddant di ydi o ‘ngwas i," meddai Nain gan wenu.

Rhoddodd ei fys yn ei geg. Ie wir, roedd twll mawr yn ei geg lle bu’r dant. HWRE! Byddai arian ganddo i brynu’r sbarclyrs wedi’r cyfan!

Stori gan Nia Môn