Deunyddiau Darllen Grwp                                                           
STORIAU     

Gweithgareddau

Yr Hen Wraig a'r Mochyn

Pan oedd hen wraig yn glanhau ei bwthyn daeth ar draws darn chwe cheiniog o dan y dreser. ‘Dyna lwc,’ meddai wrthi ei hun. ‘Be gaf i brynu i mi fy hun? Fe wn i be wna i, mynd i’r farchnad i brynu mochyn.’ A dyna wnaeth hi.

Ar ei ffordd adre o’r farchnad roedd yn rhaid iddi hi a’r mochyn ddringo dros y gamfa, ond gwrthododd y mochyn yn lân â symud. Dyna lle roedd hi, yn gwthio a thuchan, ond roedd y mochyn yn rhy drwm iddi ei godi drosodd.

Yna ddigwyddodd weld ci ar ochr y ffordd ac meddai hi wrtho, ‘Ci! Ci! Bratha’r mochyn! Mae’n gwrthod mynd dros y gamfa a rhaid i mi gyrraedd adre cyn nos.’

‘Na, wna i ddim,’ oedd yr ateb

Ychydig yn nes ymlaen digwyddodd weld ffon ac meddai hi wrthi, ‘Ffon! Ffon! Cura’r Ci! Mae’r ci’n gwrthod brathu’r mochyn, mae’r mochyn yn gwrthod mynd dros y gamfa a rhaid i mi gyrraedd adre cyn nos.’

‘Na, wna i ddim.’

Ychydig yn nes ymlaen digwyddodd weld tân ac meddai hi wrtho, ‘Tân, tân! Llosga’r ffon! Mae’r ffon yn gwrthod curo’r ci, mae’r ci yn gwrthod brathu’r mochyn, mae’r mochyn yn gwrthod mynd dros y gamfa a rhaid i mi gyrraedd adre cyn nos.’

‘Na, wna i ddim.’

Ychydig yn nes ymlaen digwyddodd weld dwr ac meddai hi wrtho, ‘Dwr! Dwr! Diffodd y tân! Mae’r tân yn gwrthod llosgi’r ffon, mae’r ffon yn gwrthod curo’r ci, mae’r ci yn gwrthod brathu’r mochyn, mae’r mochyn yn gwrthod mynd dros y gamfa a rhaid i mi gyrraedd adre cyn nos.’

‘Na, wna i ddim.’

Ychydig yn nes ymlaen digwyddodd weld buwch ac meddai hi wrthi, ‘Buwch! Buwch! Yfa’r dwr! Mae’r dwr yn gwrthod diffodd y tân, mae’r tân yn gwrthod llosgi’r ffon, mae’r ffon yn gwrthod curo’r ci, mae’r ci yn gwrthod brathu’r mochyn, mae’r mochyn yn gwrthod mynd dros y gamfa a rhaid i mi gyrraedd adre cyn nos.’

‘Na, wna i ddim.’

Ychydig yn nes ymlaen digwyddodd weld cigydd ac meddai hi wrtho, ‘Cigydd! Cigydd! Lladd y fuwch! Mae’r fuwch yn gwrthod yfed y dwr, mae’r dwr yn gwrthod diffodd y tân, mae’r tân yn gwrthod llosgi’r ffon, mae’r ffon yn gwrthod curo’r ci, mae’r ci yn gwrthod brathu’r mochyn, mae’r mochyn yn gwrthod mynd dros y gamfa a rhaid i mi gyrraedd adre cyn nos.’

‘Na, wna i ddim.’

Ychydig yn nes ymlaen digwyddodd weld rhaff ac meddai hi wrtho, ‘Rhaff! Rhaff! Croga’r cigydd! Mae’r cigydd yn gwrthod lladd y fuwch, mae’r fuwch yn gwrthod yfed y dwr, mae’r dwr yn gwrthod diffodd y tân, mae’r tân yn gwrthod llosgi’r ffon, mae’r ffon yn gwrthod curo’r ci, mae’r ci yn gwrthod brathu’r mochyn, mae’r mochyn yn gwrthod mynd dros y gamfa a rhaid i mi gyrraedd adre cyn nos.’

‘Na, wna i ddim.’

Ychydig yn nes ymlaen digwyddodd weld llygoden ac meddai hi wrtho, ‘Llygoden! Llygoden! Bratha’r rhaff! Mae’r rhaff yn gwrthod crogi’r cigydd, mae’r cigydd yn gwrthod lladd y fuwch, mae’r fuwch yn gwrthod yfed y dwr, Mae’r dwr yn gwrthod diffodd y tân, mae’r tân yn gwrthod llosgi’r ffon, mae’r ffon yn gwrthod curo’r ci, mae’r ci yn gwrthod brathu’r mochyn, mae’r mochyn yn gwrthod mynd dros y gamfa a rhaid i mi gyrraedd adre cyn nos.’

‘Na, wna i ddim.’

‘Cath! Cath! Dal y llygoden! Mae’r llygoden yn gwrthod brathu’r rhaff, mae’r rhaff yn gwrthod crogi’r cigydd, mae’r cigydd yn gwrthod lladd y fuwch, mae’r fuwch yn gwrthod yfed y dwr, Mae’r dwr yn gwrthod diffodd y tân, mae’r tân yn gwrthod llosgi’r ffon, mae’r ffon yn gwrthod curo’r ci, mae’r ci yn gwrthod brathu’r mochyn, mae’r mochyn yn gwrthod mynd dros y gamfa a rhaid i mi gyrraedd adre cyn nos.’

‘Fe ddweda i be wna i’, meddai’r gath yn hamddenol. ‘Dos di i ofyn i’r fuwch am ddiod o laeth i mi, ac yna fe ddalia i’r llygoden i ti.’

I ffwrdd â’r hen wraig i ofyn i’r fuwch am ddiod o laeth. ‘Fe ddweda i be wna i,’ meddai’r fuwch yn hamddenol. ‘Dos di i’ r das wair acw a dod â choflaid o wair i mi, ac yna fe ro i’r llaeth i ti.’

I ffwrdd â’r hen wraig i nôl y gwair a’i roi i’r fuwch. Wedi iddi fwyta’r gwair i gyd rhoddodd y fuwch ddysglaid o laeth i’r hen wraig ac i ffwrdd â hi i’w roi i’r gath.

Wedi yfed y llaeth i gyd dechreuodd y gath ddal y llygoden, dechreuodd y llygoden frathu’r rhaff, dechreuodd y rhaff grogi’r cigydd, dechreuodd y cigydd ladd y fuwch, dechreuodd y fuwch yfed y dwr, dechreuodd y dwr ddiffodd y tân, dechreuodd y tân losgi’r ffon, dechreuodd y ffon guro’r ci, dechreuodd y ci frathu’r mochyn, neidiodd y mochyn yn syth dros y gamfa a chyrhaeddodd yr hen wraig adre cyn nos.

    
(Stori Werin)