Deunyddiau Darllen Grwp                                                           
STORIAU     

Gweithgareddau

Syllai Sam a Sara yn ddiflas allan drwy’r ffenest, gan wylio’r glaw yn disgyn, drip, drip, drip dros y wlad.

Nid oedd wedi stopio bwrw ers y Flwyddyn Newydd, ac roedd Nain a Taid yn dweud mai dyma’r mis Ionawr gwlypaf ers cyn cof. Y tu allan, roedd y nant fechan wedi troi yn rhaeadr frown, fudr, y defaid yn swatio gyda’i gilydd fel glud yng nghysgod y cloddiau a’r awyr uwchben yn ddu fel Gwartheg Duon Cymreig. Roedd Sam a Sara wedi cael hen, hen ddigon ar Ifan y Glaw.

"Sa’n well i ni ddechrau adeiladu arch fel un Noa tybed?" holodd Sara.

"Paid â siarad yn wirion!" atebodd Sam yn swta.

"Wel, dwi wedi cael llond bol ar y glaw," meddai Sara. "A ph’run bynnag, pryd gawn ni eira? Ro’n i’n meddwl mai eira ‘rydan ni i fod i’w gael yn y gaeaf."

Y fath hwyl fyddai i’w gael petai yna garped o eira y tua allan, fel gaeafau go-iawn!

"Does gen i ddim syniad", ochneidiodd Sam.

"Pam na wnei di ofyn i Siân Lloyd neu Jenny Ogwen? Nhw ydi merched y tywydd!"

Anwybyddodd Sara ei brawd. Roedd o wedi bod mewn tymer ddrwg byth ers i’r diferyn cyntaf o law ddisgyn o’r nen, gan olygu nad oedd posib gadael y ty, a mynd allan i chwarae. Ac, o! roedd hi mor ddiflas bod yn gaeth yn y ty ar bnawn Sadwrn! Doedd dim o werth ar y teledu (os nad oeddech chi’n hoffi ffilmiau du a gwyn a rhyw gystadleuaeth sglefrio iâ o Rwsia), roedd pob llyfr a oedd yn y ty wedi ei ddarllen o glawr i glawr; ac roeddynt wedi dechrau diflasu ar deganau’r Nadolig yn barod! I goroni’r cyfan, roedd Dad a Mam yn swp sâl hefo’r annwyd, ac yn tagu a thisian yn uchel bob yn ail yn y gwely.

Yn sydyn, cafodd Sara syniad. "Wn i! Beth am wisgo’r welintons newydd gawson ni’n anrheg Nadolig gan Ewythr Dei a Modryb Hilda, gwisgo cotiau glaw, a mynd allan am dro?"

Er nad oedd Sa, yn un am gytuno gyda’i chwaer fel arfer, penderfynodd dderbyn y cynnig. Efallai nad oedd hi’n bosib mynd allan i sglefrio ac adeiladu dyn eira fel y llynedd, ond o leia’ fe gâi hwyl yn neidio a sblasio yn y pyllau dwr yn y buarth.

A dyna lle buon nhw – yn neidio i ganol y pyllau dwr fel dau o eogiaid Afon Conwy, yn tasgu dwr dros Gelert y ci, a rasio eu beiciau i fyny ac i lawr y buarth gan sgeintio mwd a dwr i bobman. Efallai eu bod yn wlyb diferol, ac yn fwd o’u pennau i’w traed … Efallai bod y defaid yn y cloddiau yn syllu’n hurt arnyn nhw, ond sôn am hwyl! Roedd hyn yn bendant yn well na stelcian o gwmpas y ty rownd y ril …..

"O plis mam, sniff, pliiiiiiiis gawn ni fynd allan i chwarae, sniff, sniff?"

Gwnai Sam a Sara lygaid llo mawr ar eu mam, o gynhesrwydd eu gwlâu. Dyna lle’r oedd yr efeilliaid, eu trwynau’n goch fel trwyn Rwdolff, diod lemwn poeth yn un llaw, a thomen o hancesi yn y llall.

"Am y tro ola’, na chewch," atebodd Mam. Gan osod y poteli dwr poeth wrth draed y plant. "Ond, ma-a-a-a-a-am!" protestiodd yr efeilliaid.

"Na! Os oeddech chi’n ddigon gwirion i wlychu’n wlyb diferol yn y glaw, yna does rhyfedd eich bod chi wedi dal yr hen annwyd ‘ma! Felly, rhaid i chi swatio yn y gwely am ddiwrnod neu ddau, i chi gael gwella’n iawn, fel Dad a fi." A gadawodd Mam yr ystafell. Unwaith eto, tisian yn un côr wnaeth Sam a Sara, gan beri i’r golau ar y nenfwd ysgwyd o ochr i ochr.

"Dwi wedi, sniff, cael hen lond, sniff, bol ar yr annwyd ‘ma," meddai Sam, "a, sniff, dy fai di ydi hyn, sniff, i gyd, sniff!"

"Hy", atebodd Sara, "wnes i ddim, sniff, dy orfodi di i ddod allan i chwarae, sniff, yn y glaw, naddo? Aaaa – TISHW!!!"

"Tydi hyn ddim yn deg, sniff, sniff, mae pawb arall allan yn cael hwyl!" oedd cwyn Sam.

Ar ôl chwythu eu trwynau am y canfed tro y bore hwnnw, cododd y ddau o’u gwlâu, a cherdded at y ffenest. Syllodd Sam a Sara yn ddiflas drwy’r ffenest, gan wylio’r plu eira yn disgyn yn dawel dros y wlad, a’r plant i gyd yn cael sbri yn sglefrio, yn taflu peli eira am y gorau, ac yn adeiladu dwsinau o ddynion eira yn y caeau islaw …..


Gan Dylan Wyn Williams