Deunyddiau Darllen Grwp                                                           
STORIAU     

Gweithgareddau

Yr oedd Mawi Tici Tici mewn tymer ddrwg ar ôl i’w frodyr wrthod gadael iddo fynd i bysgota hefo nhw byth eto. A phenderfynodd wneud rhywbeth gwirion iawn.

"Rydw i am ddiffodd pob tân sy’n y wlad pan fydd pawb yn cysgu heno," meddai wrtho’i hunan un diwrnod.

Bu’n crwydro am oriau’r noson honno’n gwneud hynny. Yna aeth i guddio pan dorrodd y wawr.

"Does dim tân yn unlle i ni goginio ein bwyd."

"Nac i gadw’n gynnes pan fydd y gwynt yn oer."

Gwrandawodd mam Mawi ab bobl y Maori yn y pentre’n cwyno fel hyn yn y bore.

"Does ond un peth i’w wneud," maeddai hi wrth bawb.

"Mae’n rhaid i rywun fynd i ddweud wrth Mahwica, duwies y tân be sy wedi digwydd".

Gan fod honno’n hen iawn, iawn, ac yn flin, nid oedd neb yn fodlon mynd ati i ofyn am ychydig o dân ganddi i ddod yn ôl hefo nhw i’r byd.

"Does neb erioed wedi ei gweld, na bod yno’n ei gwlad uwch y cymylau", meddai rhywun.

"Mi a’i i chwilio amdani a dod â thân yn ôl i’r ddaear!"

Daeth Mawi i’r golwg yn sydyn a chwarddodd ei frodyr wrth ei glywed yn siarad fel hyn.

"Dwyt ti’n dda i ddim ond i wneud hen driciau dwl," ebe un ohonyn nhw.

"Ond mae o’n ddewrach na chi, yr hen fabis!" meddai eu mam, gan ddweud wrth ei mab ieuengaf sut i gyrraedd gwlad Mahawica yn yr awyr.

"Paid â gwneud dim o’i le yno, cofia," meddai ei dad wrtho cyn i Mawi gychwyn, "neu ni fydd duwies y tân yn gadael i ti ddod yn ôl aton ni."

Dringodd Mawi Tici Tici i ben mynydd uchel. Yna trodd ei hun yn aderyn a hedfan yn uchel, uchel i gyfeiriad gwlad Mahwica.

"Pwy wyt ti?" ebe honno wrtho’n flin wedi iddo gyrraedd, a newid ei siâp i fod yn hogyn ifanc unwaith yn rhagor. "A be wyt ti eisiau?" Nid oedd Mahwica wedi cyfarfod neb o’r ddaear o’r blaen.

"Mawi ydw i, o wlad y Maori. Mae pob tân wedi diffodd yn ein gwlad. A ga’i ychydig o dân gennych chi i fynd yn ôl hefo mi, os gwelwch yn dda?"

Edrychodd Mahwica arno’n ofalus. Ni wyddai hi mai y fo oedd wedi diffodd y tanau. Er ei bod mewn tymer ddrwg o hyd, gwenodd ar y llanc.

"Rydw i wedi clywed sôn amdanat ti, Mawi. Ac mi rydw i’n hoffi bechgyn ifanc direidus a llawn sbort. Cei, fe gei di dân gen i."

Diolchoch y Maori siriol yn gynnes iddi. Ond doedd dim golwg o fflamau na mwg yn unlle.

"Ha-ha," chwarddodd y dduwies. "Rydw i’n cuddio’r tân tu ôl i’m bysedd!"

Neidiodd Mawi oddi wrthi mewn dychryn.

"Paid â bod ofn," meddai hi gan estyn un fflam fechan iddo. "Wnei di ddim llosgi gan mai Mahwica sy’n rhoi’r fflam i ti."

Cychwynnodd Mawi Tici Tici ar ei daith yn ôl i’r ddaear wedi iddo newid ei hun yn aderyn unwaith eto. Ond nid aeth ymhell cyn penderfynu gwneud rhywbeth dwl dros ben. Chwythodd ar y fflam a’i diffodd. Yr oedd am geisio diffodd pob tân oedd gan Mahwica fel y gwnaeth ar y ddaear! Aeth yn ei ôl ati a chael fflam arall a oedd yn cuddio y tu ôl i un arall o’i bysedd.

"Bydd yn ofalus y tro yma!" meddai’r dduwies pan gychwynnodd Mawi ar ei daith yr ail waith.

Ond chwythodd y cenna’ drwg y fflam allan eto ar ôl hedfan ychydig. Dywedodd gelwydd unwaith yn rhagor, - mai’r gwynt oedd yn diffodd y fflamau. A chafodd drydedd fflam gan y dduwies y tân. Aeth Mawi Tici Tici yn ôl ac ymlaen fel hyn nes oedd Mahwica wedi rhoi iddo bob fflam oedd yn cuddio tu ôl i fysedd ei dwylo a’i thraed, - ond un.

"Aros di, y gwalch!" meddai pan welodd hi Mawi yn dychwelyd ati’r tro olaf. Yr oedd hi wedi deall erbyn hyn bod y llall yn chwarae tric ac yn gwneud sbort am ei phen. Ac yn lle estyn yr ugeinfed fflam iddo, trawodd y gwair sych o’i chwmpas hefo bawd ei throed dde. Ymledodd y tân drwy’r’ gwair a’r coed yn y wlad uwchben y cymylau!

"Yn tydw i’n ffwl gwirion," gwaeddodd Mawi gan deimlo’n euog wrth ffoi rhag y tanau gwyllt.

Newidiodd ei hun yn hebog, ond neidiai’r fflamau’n uchel ato i’r awyr gan losgi rhai o’i blu. Roedd wedi dychryn am ei fywyd ac yn sgrechian. Gwelodd lyn islaw iddo. Roedd am lanio ger y dwr i ddiffodd y gwreichion yn ei adenydd. Ond roedd y llyn yn berwi gan fod y tonnau mor ddychrynllyd o boeth. Roedd y coedydd yng ngwlad Mahwica bron i gyd yn wenfflam erbyn hyn. Bu bron i Mawi gael ei ladd. Ac nid oedd ei asgwrn hud ganddo’r tro hwn i’w amddiffyn.

Yna’n sydyn, cofiodd am Tawhiri, - duw y glaw. Gwaeddodd y llanc dros y lle er na welai neb:

"O achub fi, Tawhiri!"

"Wn i ddim wyt ti’n werth dy achub, wir," atebodd duw’r glaw yn flin o’i wlad yntau yn yr entrychion. "Rwyt ti’n rhy hoff o wneud pethau annifyr a chreulon. A dweud celwydd!"

Ond ar ôl i Mawi addo na fyddai’n gwneud pethau fel hyn eto, gollyngodd Tawhiri y glaw mawr dros yr hebog a thros wlad Mahwica i gyd. Dechreuodd y dduwies sgrechian wrth weld y llifogydd dros bob man ac wrth feddwl bod pob tân ar ei thir wedi ei ddiffodd. Bu bron iddi foddi, ond llwyddodd i gyrraedd ogof yn uchel yng nghreigiau ei gwlad.

"O be wna i heb dân?" meddai’n drist wrth hi ei hunan. "A be sy’n mynd i ddigwydd i’r bobl druan i lawr ar y ddaear heb y fflamau cynnes?"

Ond cafodd y tân ei achub, er gwaetha’r holl ddwr a thriciau hurt Mawi Tici Tici.

"Wyt ti’n addo gwneud pethau da a chall yn lle gwneud drygioni o hyd, o hyn allan?"

Clywodd Mawi lais duw’r glaw yn galw arno o rywle’n yr ucheldir wrth iddo hedfan yn ei ôl at ei bobl ei hun.

"Ydw," atebodd Mawri yn grynedig.

Yr oedd yn poeni’n ofnadwy erbyn hyn. Meddyliai yn siwr nad oedd yr un tân yn unlle oherwydd ei ffwlbri o.

"Rhaid i ti wrando’n ofalus. Mae gen i gyfrinach i’w dweud wrthyt", meddai duw’r glaw wrtho ar ôl rhoi gorchymyn nad oedd mwy o law i ddisgyn ar hyn o bryd. "Dydi’r tân i gyd ddim wedi mynd allan yng ngwlad Mahwica. Mae ychydig ohono’n cuddio yn rhai o’r coed sy heb eu llosgi. Nid yw’n gwneud dim niwed iddyn nhw. A bydd yn cuddio mewn ambell goeden ar y ddaear erbyn i ti gyrraedd adref hefyd."

"Diolch yn fawr, Tawhiri, am fy achub i a’r tân," atebodd Mawi yn slei, gan hedeg ymlaen yn siriol wedi cael gwybod gan dduw’r glaw sut oedd cael tân allan o’r coed yng ngwlad y Maori.

"Dyma Mawi wedi dod adref!" gwaeddodd un o’i frodyr pan welodd yr hebog yn glanio o’r diwedd ar do eu cartref.

"Ond dydi’r tân ddim gen ti," meddai mam Mawi’n ddigalon wrtho ar ôl i hwnnw newid ei siâp i fod yn fab iddi unwaith eto.

"Edrychwch arna’i i yn rhwbio’r darn pren yma’n erbyn un arall," ebe Mawi Tici Tici ar ôl cael ei wynt ato wedi’r daith flinedig.

"Dangos dy hun eto, ynte?" meddai ei frawd hynaf, wrth weld mwg a gwreichion yn troi’n dân yn y gwair sych oedd yn ymyl y ddau ddarn o bren a rwbiai’r brawd ieuengaf yn erbyn ei gilydd.

Ond yr oedd pawb arall yn hynod o falch eu bod nawr yn gwybod sut i gynnau tân. Wedi dweud hanes ei daith anturus – ond nid y cyfan – cerddai Mawi o gwmpas wedyn yn canmol a dangos ei hun yn waeth nag erioed. Ac nid oedd ei dri brawd yn credu, er iddo addo i dduw’r glaw y byddai’n byhafio, y byddai’r gwalch drygiog yn cadw ei air!