Deunyddiau Darllen Grwp                                                           
STORIAU     

Gweithgareddau

hwrdd2.jpg (12006 bytes)

‘Tw-w-w-wyll!’ brefodd yr hwrdd ddu. Ond doedd neb yn deall. Noson oer oedd hi yn y flwyddyn1763. Yn eu bwthyn llwm ger Llanbedr Pont Steffan roedd Siôn Philip a’i wraig yn cysgu’n drwm. Ond yn y plas gerllaw roedd Herbert Lloyd, y sgweiar, yn rhwbio’i ddwylo â gwên fileinig ar ei wyneb.

Ar do’r plas – Plas Ffynnon-bedr – roedd gardd. Doedd dim yn well gan Herbert Lloyd na sefyll yn yr ardd honno a syllu ar ei dir. Ymestynnai ei dir i bob cyfeiriad. Fe oedd piau pob cae yn yr ardal – pob cae ond un. Siôn Philip oedd piau’r cae hwnnw.

Roedd cae Siôn Philip yn dân ar groen y sgweiar.

"Gwertha’r cae i fi, Siôn," meddai Herbert Lloyd.

"Alla i ddim, syr," atebodd Siôn.

"Ond rhaid i fi gael y cae! Dwi eisiau perchen pob cae yn yr ardal," meddai Herbert Lloyd.

"Alla i mo’i werthu e i chi, syr," meddai Siôn Philip.

"Dim ond un cae sy gen i. Heb y cae alla i ddim byw."

Alla i ddim byw! Atseiniai’r geiriau yng nghlustiau’r sgweiar.

Dyn creulon, barus oedd Herbert Lloyd. Disgynnai ei chwip yn aml ar gefnau ei weision. Doedd e ddim am adael i ryw lipryn fel Siôn Philip rwystro’i gynlluniau. Roedd e’n benderfynol o gael y cae.hwrdd.jpg (150861 bytes)

Yn fuan wedyn diflannodd hwrdd du gwerthfawr o gaeau’r plas. Aeth y sgweiar ar ei union at gwnstabl Llanbedr Pont Steffan.

"Mae rhywun wedi dwyn fy hwrdd du," meddai.

"Rhaid i chi ddal y lleidr ar unwaith."

Ychydig a wyddai’r cwnstabl wrth wisgo ei gôt y noson honno mai Herbert Lloyd ei hun oedd wedi dwyn y hwrdd a’i guddio. Wrth i’r cwnstabl stryffaglio dros y caeau, roedd dau o weision y sgweiar yn gollwng yr hwrdd i lawr simdde lydan bwthyn Siôn Philip.

Deffrodd Siôn Philip a’i wraig mewn braw. Deallon nhw ar unwaith beth oedd yn digwydd. Yr adeg honno roedd dwyn defaid yn drosedd ddifrifol iawn. Neidion nhw o’r gwely a cheisio gwthio’r hwrdd drwy’r drws. Ond - rhy hwyr! – roedd y cwnstabl yn dod tuag atyn nhw â’i lamp yn ei law.

"Tw-w-w-wyll!" brefodd yr hwrdd du, ond deallodd y cwnstabl ‘run gair. Arestiwyd Siôn Philip. Fe’i taflwyd i garchar ac yna fe gafodd ei grogi am ddwyn yr hwrdd du. A do, fe gafodd Herbert Lloyd y cae.

Erbyn heddiw mae Plas Ffynnon-bedr yn adfail. Ond dyw pobl yr ardal ddim wedi anghofio am dwyll Herbert Lloyd. A dydyn nhw ddim wedi anghofio am Siôn Philip chwaith. Er gwaetha cynllun creulon y sgweiar, mae ‘na gae ar lannau’r Teifi sy’n dal hyd heddiw i ddwyn yr enw Cae Siôn Philip.

Awdur – Siân Lewis