Darllenwch hanes Dwynwen yn ofalus.
Da o beth fyddai ei darllen sawl gwaith er mwyn ei deall yn iawn.
Os byddwch yn draganfod geiriau dieithr/newydd yn y testun, ysgrifennwch hwy mewn Llyfr Geiriau a chwilio am eu hystyr mewn Geiriadur.
Dysgwch yr ystyr a sut i'w sillafu.
  

Y SANTES DWYNWEN.

Un o lefydd prydferthaf Ynys Môn yw Llanddwyn ac yno mae olion eglwys y Santes Dwynwen. Hi oedd santes cariadon Cymru ac ar Ionawr 25ain byddwn yn dathlu Ddydd Gwyl y Santes Dwynwen. Saif Llanddwyn ar arfordir de-orllewin Môn a gellir mynd yno drwy bentref Niwbwrch ac ar hyd y ffordd drwy'r goedwig.

Ganwyd Dwynwen yn y bumed ganrif - tua mil pum cant o flynyddoedd yn ôl. Ystyr ei henw yw Y Fendigaid Fwyn - ond fel Dwynwen y cofir amdani heddiw. Pan ddaeth Dwynwen i Fôn a chodi ei heglwys ar Landdwyn, daeth ei brawd a'i chwaer efo hi. Enw ei brawd oedd Dyfnan ac enw ei chwaer oedd Cain. Cododd Dyfnan ei egwlys yn Llanddyfnan ac adeiladodd Cain ei heglwys hithau yng Ngherrig Ceinwen.

Tywysoges a merch i'r brenin Brychan o Frycheiniog oedd Dwynwen.

 

 

Yr oedd ei thad am iddi briodi efo tywysog o'i ddewis ei hun. Trefnwyd gwledd yn llys y brenin a gwahoddwyd pawb o bwys yno.

 

 

Gwisgodd Dwynwen ei gwisg brydferthaf a hi oedd yr harddaf yn y wledd. 
Daeth tywysog ifanc o'r enw Maelon Dafodrill i'r wledd.  Gwr ifanc, gosgeiddig oedd Maelon a syrthiodd Dwynwen ag yntau mewn cariad yn syth.

 

 

Yr oedd Maelon am i'r ddau briodi ond gwrthododd Brychan roi ei ganiatad oherwydd ei fod am i Ddwynwen briodi â thywysog arall oedd yn llawer hyllach a hynach na Maelon.

Gofynnodd Maelon i Ddwynwen redeg i ffwrdd ond er cymaint ei chariad tuag ato – gwrthododd. Nid oedd am briodi â neb. 

Un noson, aeth Dwynwen allan i'r goedwig. Gweddiodd ar i Dduw ei hiachau o'i serch. Syrthiodd i gysgu dan ganghennau cysgodol y coed ac yn ei chwsg cafodd freuddwyd. Yn y freuddwyd gwelai Maelon.

Gwelai angel, hefyd, yn cerdded tuag ati a chwpan yn ei law.

"Yfwch o'r cwpan hwn." meddai'r angel.

 Cymerodd ddiod.

 

Yn y freuddwyd yfodd Maelon o'r ddiod hefyd ac wedi iddo yfed trodd yn dalp o rew.

Cafodd Dwynwen dri dymuniad gan yr angel.

Yn gyntaf, dymunodd i Faelon gael ei ddadmer a bod yn ddyn unwaith eto.

Yn ail, dymunodd iddi hi fod yn nawdd santes cariadon Cymru.

Yn dryddyd, dewisodd beidio a syrthio mewn cariad â neb arall tra byddai byw er mwyn iddi dreulio ei hoes yn helpu pawb oedd mewn cariad.

Caniataodd yr angel ei thri dymuniad ac wedi hynny dewisodd Dwynwen fyw fel lleian a gweithio i Dduw gydol ei hoes.

Gadawodd ei chartref a theithio i Fôn. Hwyliodd i ynys unig Llanddwyn.

Yr oedd yn lle delfrydol i fyw.

Cododd ei heglwys yno a chawsai fwyd o'r tir o gwmpas; pysgod o'r môr a dwr glân o ffynnon gyfagos. Yr oedd yn hapus i aros yno i weithio er mwyn Duw a chariadon Cymru.

Flynyddoedd wedyn, yn ystod Y Canol Oesoedd, byddai cariadon yn teithio i Landdwyn i weddio yn yr eglwys ac i wneud dymuniad ger y ffynnon. Byddent yn taflu cerrig bach, gwyn i'r dwr i weld os oedd eu cariad yn ffyddlon neu peidio. Cred rhai i'r bardd Dafydd ap Gwilym ddod i Landdwyn. Yn sicr, mae wedi barddoni am Ddwynwen. 

Erbyn heddiw, ychydig sydd yn gwybod ble mae'r ffynnon a phrin yw'r rhai sydd yn mynd i Landdwyn i chwilio am gariad.  

Er hynny, mae llawer yn mynd yno yn ystod gwyliau'r Haf i ymdrochi.

O gwmpas yr ynys mae llwybrau cerdded lle gwelir byd natur ar ei orau.  Yn y goedwig ger y traeth, mae cartref y wiwer goch.  Mae planhigion prin yn tyfu ar Landdwyn hefyd.

Lle bendigedig yw'r ynys unig i fwynhau eich hun ac, efallai, i gael cariad!

 

Wedi darllen a deall y stori yn iawn, gwnewch nodiadau am y cymeriadau a'r digwyddiadau y pwysicaf. Bydd hyn yn help i chi ddeall a chofio'r stori.

(NODIADAU = geiriau a brawddegau byr yn nodi'r pwyntiau/ wybodaeth bwysicaf.)

Gweithgareddau Ymlaen