| Iaith yn y Blynyddoedd
Cynnar Gosod
Sylfeini Dwyieithrwydd
____________________________________
Cyflwyniad
Mae'r plant sydd wedi dysgu un iaith (eu hiaith gyntaf) wedi amsugno llawer o'r
wybodaeth angenrheidiol i'w cynorthwyo i fod yn ddefnyddwyr iaith cymwys. Mae
ganddynt angen pob cefnogaeth a chynhaliaeth i adeiladu ar y sylfeini ieithyddol sydd
ganddynt.
Bydd yn rhaid ystyried mamiaith y plentyn os yw'n wahanol i iaith dorfol y
dosbarth. Dyma lle bydd yn rhaid gweithredu sensitifrwydd i'w eithaf.
- Mae angen sicrhau bod y plentyn yn ymgartrefu yn yr ysgol. Rhaid cofio bod dod i ysgol
yn brofiad newydd sbon iddo. a dyletswydd cyntaf yr athrawes / athro yw ei wneud yn hapus
a gwneud iddo deimlo'n ddiogel. Y mae gwneud hyn yn rhagdybio defnyddio'r famiaith efo'r
plentyn unigol mewn sefyllfaoedd arbennig e.e. pan mae plentyn wedi syrthio.
- O'r cychwyn cyntaf awgrymir defnyddio'r Gymraeg fel iaith dorfol hyd yn oed mewn
sefyllfaoedd lle mae'r mwyafrif, os nad y cyfan, o'r plant yn ddi-Gymraeg e.e. cyfarchion,
cyfarwyddiadau. Dyma a wneir gan athrawon sy'n llwyddo.
- Pan mae angen defnyddio'r Saesneg yn dorfol yna rhaid gwneud hynny yng nghyd-destun polisi
pendant a pheidio cyfieithu'n rheolaidd, dim ond cynnig geiriau allweddol yng nghanol
brawddeg. Y peryg yw y bydd y plant yn troi clust fyddar ir Gymraeg os gwyddant yr
ail adroddir y cyfarwyddiadau a.y.y.b. yn Saesneg. Yn wir y mae yna rai patrymau nad
oes angen eu cyfieithu o gwbl - gorchmynion sy'n cael eu cyflwyno gydag amnaid neu esiampl
yr athrawes / athro. Y mae'r athrawon sy'n llwyddiannus yn y dasg o ddysgu Cymraeg i blant
di-Gymraeg yn siarad gymaint efou cyrff ag efo'u lleisiau!
- Dylid neilltuo cyfnodau penodol yn ystod pob wythnos ar gyfer parchu a diogelur
Saesneg lle bon famiaith. Awgrymir darllen storïau yn y Saesneg, a'u trafod yn
iaith y llyfr.
- Rhaid cofio bod y plant am gyfnodau meithion yn y dosbarth mewn grwpiau lle nad oes gan
yr athrawes / athro reolaeth dros yr iaith a ddefnyddir ganddyn nhw. Pan fydd grðp o
blant di-Gymraeg yn chwarae yn y tþ bach twt heb yr athrawes, yna y Saesneg fydd iaith y
chwarae hwnnw. Y mae hyn yn anochel, ond dylai'r athrawes gynllunio cyfleoedd i
ddatblygur Gymraeg yn y sefyllfaoedd chwarae hyn gan esbonio ir cymhorthydd pa
batrymau yn union sydd ar waith ar gyfnodau arbennig, gw. Y ddogfen Iaith
iw defnyddio yn y
..
- Maen bwysig sicrhau presenoldeb amlwg y Gymraeg yn awyrgylch ac amgylchfyd y
dosbarthiadau. Bydd yr hyn a ddangosir yn adlewyrchu'r profiadau a gafodd y plant a'r
digwyddiadau dosbarth, ac yn cynnwys modelau'r athrawes / athro o iaith dda ar lafar
neunysgrifenedig - o frawddegau cyflawn o fewn cyd-destun cyfarwydd ac nid
llythrennau'r wyddor na rhestrau o eiriau amherthnasol.
- Dyletswyddau yr athrawes / athro yn y dosbarth meithrin / derbyn yw creu amgylchiadau
lle y gall plant fagu hyder i siarad, gan eu cymell i ymateb yn yr iaith darged mewn torf
(o fewn sefyllfa'r dosbarth cyfan neu grðp bychan) o'r cychwyn cyntaf. Mae yna ddiogelwch
yn y torfol a rhaid wrth ymdeimlad o ddiogelwch yn ogystal ag ymddiriedaeth rhwng yr
athrawes / athro a'r plant i feithrin agweddau ac ymateb iach ganddyn nhw. Y mae'n bosib y
bydd rhai plant na fyddan nhw am siarad ond Saesneg ar y dechrau ond dylid eucymell yn
araf bach i ddechrau ymateb yn y Gymraeg.
Dymar camau cyntaf yn y broses o sicrhau cydbwysedd ieithyddol. |