Iaith yn y Blynyddoedd Cynnar

Gosod Sylfeini Dwyieithrwydd
________________________________________Yn ôl..

Gweithgaredd 6

Addas ar gyfer datblygu’r Gymraeg neu’r Saesneg

Amcanion penodol

  • Cyfleoedd cyson i weithio a sgwrsio gyda phlant
  • Y plant yn clywed oedolion yn siarad a thrafod
  • Cyfleoedd i’r plant sgwrsio mewn sefyllfaoedd anfygythiol
  • I gael y plant i arsylwi, gwrando a hybu iaith
  • Defnyddio iaith raenus

 

Gweithgaredd grwp/ dosbarth

Gêm Esgidiau

Casgliad o barau esgidiau fel:

Esgidiau pêl droed, welington, esgidiau babi, esgidiau rholio, esgidiau plentyn, sliperi, esgidiau bale, esgidiau dringo, sandalau, clogs, esgidiau sowdl main ("stiletto") a.y.y.b.

Trafod lliw a maint, esgidiau i pwy, ac i pa bwrpas.

Cwestiynau a chyfarwyddiadau

Athrawes – Dos i nôl yr esgid babi. Dos i 'nôl yr esgidiau rholio.

Pa esgid sydd gen ti?

Pa liw ydi'r esgid?