Iaith yn y Blynyddoedd Cynnar
Gosod Sylfeini Dwyieithrwydd
________________________________________![]()
| Gweithgaredd 7 Addas ar gyfer datblygur Gymraeg neur Saesneg
Amcanion penodol Gweithgaredd grwp Gêm Pa degan? Yr athrawes i drefnu casgliad o deganau ar olwynion yn cyd-fynd âr gân: "Mae'r car ar y ffordd yn dweud bip bip". Fe fydd y plant wedi dysgu y gân yn barod cyn dechrau chwarae y gêm. Gosod y plant mewn cylch a'r athrawes yn rhannu y teganau gan ofyn: Athrawes: Pa degan sydd gen ti? Plentyn: Car Athrawes: Pa liw ydi'r car? Plentyn: Car Coch. Yr athrawes yn helpu y plant trwy ail-ddweud brawddeg bob plentyn cyn rhoi y tegan i'r plentyn nesaf er mwyn cael digon o gyfleoedd i ail-ddweud ac efelychu a datblygu iaith raenus a chywir. |
| POLISI IAITH GWYNEDD A MÔN
Sicrhau, trwy ddarpariaeth a threfniadaeth feithrin bwrpasol a sensitif, y rhoddir i bob plentyn sylfaen gadarn yn y Gymraeg er mwyn ei alluogi i gyrraedd y nod o ddwyieithrwydd llawn maes o law. |