| Rhai dulliau cyffredinol o sicrhau cefnogaeth
rhieni Mae'n hanfodol magu perthynas dda gyda rhieni. Mae cysylltiad agos rhwng y
cartref â'r ysgol yn allweddol bwysig er lles y plant. Mae perthynas iach ac adeiladol yn
cynorthwyo'r plant i ymgartrefu'n hapus yn yr ysgol. Man cychwyn y daith addysgol yw'r
plentyn a'i anghenion unigol. Yn y cyswllt hwn mae lle i gydweithio yn agos gyda rhieni er
mwyn ennyn diddordeb yn yr hyn y mae eu plant yn ei wneud a sicrhau cefnogaeth yn eu
datblygiad.
Awgrymir cynnal a threfnur gweithgareddau isod fel bon briodol:
- Trefnu cyfarfod gyda rhieni i egluro yr hyn y gobeithir ei gyflawni o safbwynt
cyflwynor Gymraeg i'w plant ac esbonio dull yr ysgol o ddiogelu a datblygur
Saesneg. Gellir trafod y modd y gall y rhieni helpu er eu bod yn ddi-Gymraeg.
- Ail gyfarfod gyda'r rhieni i'w hyfforddi (cynnal gweithdy) ar sut i helpu'r plant fydd
yn cyd-fynd â phrif weithgareddau 'Cymraeg' sy'n deillio o'u gwaith e.e. gweithgareddau 1
a 2.
- Creu taflen i rieni (gellir ei rhoi ar hysbysfwrdd y dosbarth meithrin) a gofyn iddynt
ganolbwyntio ar ddau batrwm gyda'u plant am wythnos / pythefnos e.e. Tynna dy gôt /
Gwisga dy gôt / Diolch / Dim diolch.
- Creu taflenni a thâp o'r hwiangerddi / caneuon y bydd y plant yn eu dysgu yn ystod y
tymor. Gellir gwneud hyn hefyd gyda phenillion a chaneuon / carolau ar gyfer y Nadolig.
- Creu tapiau o'r llyfrau mawr a grewyd gyda'r plant. (Bydd angen gwneud llyfrau bach
hawdd eu trin o'r rhain). Creu taflenni i egluro y storïau - ystyr geiriau /ynganu etc.
- Creu tapiau neu brynu tapiau i gyd fynd â llyfrau storïau'r dosbarth e,e, 'Dðr',
'Bili Broga', 'Helpwch fi' (Cynllun 3D). fel y gellir eu hanfon gartref gydar llyfr.
- Annog rhieni i wylio rhaglenni teledu gydau plant e.e. Slot Meithrin, Planed
Plant.
- Annog rhieni i sicrhau cyfle iw plant gael sgwrsio yn Gymraeg gyda nain a taid,
ffrindiau etc. O wneud hyn fe ymgeisir i roi cydbwysedd dwyieithrwydd yn eu profiadau y tu
allan ir ysgol.
|