Iaith yn y Blynyddoedd Cynnar

Gosod Sylfeini Dwyieithrwydd
________________________________________Yn ôl..

 

Datblygiad Iaith yn y blynyddoedd cynnar

Ymateb i bryderon rhieni

Fyddai ddim yn gallu helpu efo gwaith fy mhlentyn?

  • Gyda plant dan 5 mae hi yn bwysig eich bod yn siarad a siarad, mewn unrhyw iaith neu beth bynnag yw iaith y cartref. Mae siarad gyda phlentyn yn helpu i'w hybu i ddechrau darllen ac wrth wneud hyn 'rydych yn ei helpu heb ystyried eich bod wrthi. Gellwch wneud plentyn yn ymwybodol o brint yn yr amgylchedd e.e. wrth siopa, edrych ar rifau ar geir ac ar y ffordd fawr. Defnyddio tapiau hwiangerddi a stori (gweler canllawiau rhieni).

 

Pa bryd fydd fy mhlentyn yn dechrau dysgu darllen ac ym mha iaith?

  • Cyflwynir sgiliau darllen yn unol â chanllawiau'r ysgol. Rhaid dysgu plentyn i ddefnyddio llyfr yn gywir, troi tudalennau, bod yn ymwybodol o brint, cyd-ddarllen, gwrando storïau ac yna ymlaen i waith fwy ffurfiol fel y mae'r plentyn yn datblygu erbyn diwedd y Dosbarth Derbyn - sgiliau sydd yr un mor berthnasol yn y ddwy iaith.

 

A fydd dysgu Cymraeg yn amharu ar ddatblygiad fy mhlentyn mewn darllen gan ei bod yn iaith ffonetig?

Na fydd

  • Mae synau llythrennau yn debyg iawn yn y ddwy iaith, ac unwaith mae plentyn yn clywed sðn llythrennau ac yn dod i’w hadnabod mewn cyd-destun perthnasol, dechreuuir ar y broses ddarllen – beth bynnag bo’r iaith.

 

A fydd digon o amser yn cael ei dreulio ar y Saesneg?

  • Neilltuir cyfnodau penodol yn ystod pob wythnos ar gyfer datblygu’r Saesneg. Gwneir hyn trwy weithgareddau megis darllen storiau yn y Saesneg a’u trafod yn iaith y llyfr.

 

Pa iaith fydd cyfrwng dysgu rhifau a Mathemateg?

  • Fe fydd plant dan bump yn dechrau gwaith mathemateg gyda digon o brofiadau ymarferol a gemau wedi eu cynllunio a'u strwythuro yn ofalus gan yr addysgwr. Mae dysgu rhigymau rhif mewn unrhyw iaith yn hybu’r datblygiad mewn ffordd ddiddorol a hapus.

 

A fyddai hi‘n well canolbwyntio ar un iaith yn gyntaf-sef mamiaith y plentyn?

Nid yw hyn yn angenrheidiol.

  • Mae plant ifanc yn ei chael hi'n haws i ddysgu iaith ac yn gallu gwneud hyn drwy sefyllfaoedd chwarae heb swildod ("inhibitions"). Nid oes gan blant ifanc broblem gyda'r anghyfarwydd o achos eu brwdfrydedd a'u hawch i ddysgu ac yn fuan byddant yn gallu cyfathrebu yn y ddwy iaith.

 

Beth ydi pwrpas dysgu Cymraeg mor ifanc?

  • Bellach daw’n ofyn cyson wrth ymgeisio am swyddi am y gallu i fod yn ddwyieithog. Dengys ymchwil ei bod hi’n haws caffael iaith ym mlynyddoedd cynnar plentyn ac er i fyd gwaith ymddangos ymhell dyma’r amser gorau i osod sylfeini cadarn ar gyfer datblygu’r ddwy iaith.