Iaith yn y Blynyddoedd Cynnar

Gosod Sylfeini Dwyieithrwydd
____________________________________Yn ôl..

Y disgwyliadau erbyn diwedd y flwyddyn dderbyn

Ni ddylid ceisio brysio'r torri trwodd i siarad Cymraeg, ond fe fydd athrawon yn eu hymwneud â phlant yn cyfleu disgwyliadau - y dylai'r plant fod yn rhoi cynnig arni mor fuan ag sydd modd. Ni ddylid chwaith gywiro iaith lafar y plant hyn ond canmol bob ymdrech wrth iddyn nhw geisio eu mynegi eu hunain yn y Gymraeg. Ond fe fydd yna, gobeithio, broses o 'ddrafftio' llafar yn digwydd lle bydd yr oedolyn yn sicrhau cywirdeb geirfa a mynegiant wrth ymateb, yn aml gan ail-ddweud cyfraniad y plentyn e.e

Plentyn:- ‘Fi wedi "cutio" fy mys.’

Athrawes:-‘Rwyt ti wedi torri dy fys!’

IAITH, LLYTHRENNEDD A CHYFATHREBU

DISGWYLIADAU ERBYN DIWEDD Y FLWYDDYN ADDYSGOL

YR ARDALOEDD SEISNIGEDIG

YN Y DOSBARTH MEITHRIN BYDD Y PLENTYN: YN Y DOSBARTH DERBYN BYDD Y PLENTYN:
Yn mwynhau gwrando ar storiau etc.

Yn datblygu'r gallu i wrando ar gyfarwyddiadau

Yn gwrando ar gwestiynau ac ysgogiadau eraill ac ymateb mewn brawddegau syml

Yn ynganu'n glir a chywir

Yn defnyddio brawddegau syml ac yn ymuno yn y rhigymau a'r caneuon.
Yn ymateb yn ddeallus i storiau

Yn gallu dilyn cyfarwyddiadau a chario negeseuon   syml

Yn dysgu ar y cof a'u hailadrodd yn annibynnol ac yn ddealladwy

Yn defnyddio geirfa ddigonol i fynegi ei hun

Yn gallu disgrifio yn syml ac yn ymateb i storiau
Yn mwynhau cyd-ddarllen stori

Yn gallu trin llyfr

Yn datblygu ymwybyddiaeth o brint yn yr amgylchedd

Yn adnabod llythrennau a darllen rhai geiriau yn rhwydd gan gynnwys print sydd o'i gwmpas ac yn cyd-ddarllen mewn grwp gydag oedolyn
Yn gwneud marciau sy'n cyfleu stori

Yn ysgrifennu cadwyn o lythrennau

Yn ysgrifennu ei enw ei hun

Yn dargopio patrymau ac ymarferiadau ysgrifenedig

Yn ffurfio llythrennau a geiriau

Yn ysgrifennu geiriau cyfan

Yn cyflwyno darnau ysgrifenedig byr yn ôl ei datblygiad

Yn deall y gwahaniaeth rhwng prif lythrennau a llythrennau bach