Iaith yn y Blynyddoedd Cynnar

Gosod Sylfeini Dwyieithrwydd
________________________________________Yn ôl..

Rhai enghreifftiau o ddulliau addysgu y gellir eu dilyn

Gweithgaredd 1

Amcanion penodol

  • Y plant yn clywed oedolion yn siarad â'i gilydd
  • Defnyddio iaith raenus
  • Cyd-ddealltwriaeth da rhwng athrawes ag oedolion eraill
  • Cyfleoedd i'r plant sgwrsio mewn sefyllfaoedd anfygythiol
  • Cyfleoedd cyson i weithio a sgwrsio gyda phlant

Gweithgaredd dosbarth - Gêm lliw

Adnoddau - blociau lliw, dîs lliwiau

Y plant yn adnabod lliwiau coch, glas, melyn, gwyrdd

Yr athrawes a'r weinyddes yn eistedd ochr yn ochr yn y cylch gyda'r dosbarth

Yr athrawes a'r weinyddes yn trafod / chwarae gêm

 

Ath: 'Tro pwy ydi hi gynta?'

Gw: 'Y fi'

 

Ath: 'Tafla’r dis'

Gw: 'Dwi wedi cael lliw coch. Pwy sydd nesa?''

 

Ath: 'Y fi sy' nesa'. Dwi wedi cael lliw coch hefyd.'

 

  • Ar ôl chwarae'r gêm am rai troeon gellir rhoi plentyn rhwng yr athrawes a'r weinyddes. Bydd y plentyn yn rhan o'r gêm a disgwylir iddo /iddi ymuno yn y sgwrs.
  • Gellir ymestyn ar y patrwm yma fel mae'r plant yn dod yn fwy hyderus.
  • Yn raddol gellir chwarae'r gêm gyda grðp llai e.e. 4/6 o blant ac 1 oedolyn.