Iaith yn y Blynyddoedd Cynnar

Gosod Sylfeini Dwyieithrwydd
________________________________________Yn ôl..

Gweithgaredd 3

Amcanion penodol

  • Cael cymeriad i sgwrsio gyda'r plant
  • Annog plant yn gyson i ddefnyddio'r Gymraeg

 

Gweithgaredd dosbarth - Sgwrs gyda chymeriad

Gwneud defnydd o byped / tegan meddal neu yr athrawes i wisgo fel cymeriad.

Dim ond Cymraeg fydd y pyped / cymeriad yn gallu ei siarad.

Awgrymir y gallai'r weinyddes daflu llais y pyped / tegan meddal. Byddai'n eistedd y tu ôl i sgrin gyda'r pyped yn y golwg.

'Helo Sali Mali ydw i. Pwy wyt ti?'

'Miss Jones ydw i'

'Ble wyt ti'n byw?'

'Rydw i'n byw yn .....'

'Pwy sy'n byw efo chdi?'

'Mam, dad a brawd bach' a.y.y.b.

Pwysleisir ail adrodd y sgwrs yma rai troeon ac yna cynnal y sgwrs gyda grðp bach. Yr hyn a wneir yma yw cael plant i ymgyfarwyddo â sgwrs bob dydd. Gellir dilyn yr un math o weithgaredd yn y corneli chwarae gyda'r athrawes a'r weinyddes yn rhoi patrwm sgwrs e.e. yn y caffi, tþ twt, wrth adeiladu etc. Gweler canllawiau llyfryn 'Iaith i'w defnyddio yn y ....'