Iaith yn y Blynyddoedd Cynnar
Gosod Sylfeini Dwyieithrwydd
________________________________________![]()
| Gweithgaredd 5 Addas ar gyfer datblygur Gymraeg neur Saesneg. Amcanion penodol
Gweithgaredd grwp Dewis sefyllfa y mae'r plant yn gyfarwydd â hi e.e. Sali Mali - rhoi'r cymeriad yma mewn gwahanol sefyllfaoedd megis cuddio yn yr ystafell ddosbarth. Actio'r sefyllfa i ddechrau a chael y plant i ymgyfarwyddo â gwahanol leoliadau e.e. a) Ble mae Sali Mali? Ydy hi - wrth y drws? " - " gadair? " - " bwrdd? " - " twb tywod? etc. Creu llyfr i gofnodi'r stori. Y plant i wneud lluniau. b) Ble mae Sali Mali? Mae hi yn y bocs Mae hi yn y car etc. Creu llyfr c) Ble mae Sali Mali? Mae hi y tu ôl i'r cwpwrdd " wrth y sinc " ar y gadair " yn y gornel ddarllen etc. Creu llyfr ch) Be mae Sali Mali'n wneud? Mae hi'n cysgu " darllen " canu etc. Creu llyfr Mewn dosbarthiadau mawr gallai'r athrawes greu llyfr gyda grwp h.y. os oes 4 grwp yna byddai 4 llyfr. Gall y plant gyd-ddarllen y llyfrau fel dosbarth. |